Mae'r oriau y
mae'r tîm hwn wedi eu treulio
yn ysgrifennu a gosod, ymhell
dros gan cyfrol o'r papur, gyda
siswrn a glud, yn ddi-rif. Mae'r
tîm yn parhau i gydweithio
gyda'r golygyddion newydd, a
hoffen ni ddiolch iddyn nhw am eu cydweithrediad a'u cyngor gwerthfawr dros y cyfnod trawsnewidiol hwn wrth symud i system electronig o osod y papur.
Mae nifer o bobl wedi cyfrannu'n helaeth at y papur dros y blynyddoedd, gormod i enwi pawb, ond diolch yn fawr i chi i gyd! Mae hi wedi cymryd chwe mis o waith caled, o oresgyn problemau technegol, a chydweithio trefnus rhwng nifer o bobl, ond heddiw rydym yn falch iawn o allu cyflwyno
Y Clawdd ar ei newydd wedd! Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau'r ffurf newydd fodern sydd, rydym yn gobeithio, yn mynd i apelio at ein darllenwyr ffyddlon, a hefyd denu tanysgrifwyr newydd, yn enwedig ymysg Cymry Cymraeg iau ein hardal. Os hoffech gyfrannu mewn unrhyw ffordd, neu gynnig syniadau neu sylwadau, byddwn yn falch iawn glywed gennych chi, a chysylltwch ag un o'r golygyddion ar bob cyfrif. Rydym yn bwriadu sefydlu gwefan yn y dyfodol agos, fel bod y papur yn gweithredu fel dolen gyswllt rhwng Cymry'r ardal, rhywbeth sydd mor bwysig er mwyn cadw'r iaith yn fyw yn ein cymunedau.
|