Rydym yn ddiolchgar iawn i Iorwerth Davies o Benybont-ar-Ogwr am yr erthygl ddiddorol hon ar un o gewri'r ardal yma, sef Evan Kenffig Jones, gwr a hanai o Fynydd Cynffig, Ger Port Talbot ac a ysgrifennodd y llyfr diddorol yna ar hanes Eglwys Annibynnol Brymbo, sef Harwt a Bryn Seion. Gyda llaw, mae cysylltiadau gan Iorwerth a Wrecsam yn gymaint â bod brawd ei hen, hen daid yn byw yn y dref tua 1850 - 1877 (yn 4 Percy Road,) sef Edward Davies (Iolo Trefaldwyn) 1819 - 1877. Hwyrach y cawn erthygl amdano gan Iorwerth rywbryd yn y dyfodol.
Y mis hwn byddaf yn rhoi sylw i ŵr arall a anwyd ym Mynydd Cynffig ac a ddaeth i amlygrwydd hefyd yng Ngogledd Cymru lle y bu'n gwasanaethu fel gweinidog gydag enwad y Bedyddwyr.
Cefndir yn Ne Cymru
Ei enw ef oedd Evan Kenffig Jones a anwyd ym Mryndu, Mynydd Cynffig ym mhlwyf Margam ar 20 Mai, 1863 yn fab i John Jones a hanai o Gwrtycelyn yn Llangynog, Sir Gaerfyrddin. Un o ferched tref Caerfyrddin oedd Hannah, ei fam.
Ymddengys fod teuluoedd y tad a'r fam wedi eu huno fel llawer o rai eraill o Sir Gâr i Forgannwg gan apêl y fywoliaeth a gynigid yno yng nglofeydd cymoedd y De. Ymddengys hefyd fod John Jones, y tad, wedi priodi Hannah Griffiths ym Mhen-y-bont ar Ogwr oherwydd ceir cofnod o'r achlysur ym 1857.
Ychydig iawn o amser fu'r teulu yn byw yn y Bryndu cyn iddynt symud i Gwm Ogwr lle yr oedd y tad yn gweithio ym mhwll glo'r Ocean yn Nantymoel. Ym mhen ychydig flynyddoedd 'roedd y teulu wedi symud eto, a'r tro hwn i Flaenllechau yn y Rhondda Fach.
Ceir cofnod o'r teulu'n byw yn Chapel Row, ym Mlaenllechau yng Nghyfrifiad 1881 gyda'r tad a'r ddau fab Evan Kenffig a David yn gweithio yno fel glowyr. Yn ogystal â'i waith fel glöwr yr oedd n Jones, y tad, yn gweithio ar y tir ac yr oedd yn grefftwr gwlad. Cadwai wenyn a byddai'n arfer y grefft o grydda ac mae'n amlwg ei wedi bod yn gryn ddylanwad ar Evan Kenffig, y mab.
Galwad i'r weinidogaeth
Mewn rhifynnau o'r Llenor ym 1946 ceir ysgrif gofiannol gan Evan Kenffig Jones o dan y pennawd "Nhad" a rydd ddarlun gwych iawn o fywyd amlochrog y tad yn ogystal â chipolwg ar arferion ardal Cwm Ogwr.
Ym 1890 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Calfaria ym Merthyr Vale ac yno y'i hordeiniwyd. Ym mhen blwyddyn union yr oedd wedi symud i Brymbo yn sir Ddinbych fel gweinidog y Tabernacl. Bu'n gwasanaethu yn yr ardal ddiwydiannol honno am bron i ugain mlynedd gan wneud enw mawr iddo'i hun fel ymladdwr tros y gweiniaid, y drwgweithredwyr, carcharorion ac heddychwyr ac fel lladmerydd dros ddirwest.
Amlygodd ei hun yn y byd addysg a bu'n aelod cyfetholedig blaenllaw o bwyllgor addysg Cyngor Sir Ddinbych. Gwasanaethodd hefyd fel cadeirydd rheolwyr ysgolion y Bwlchgwyn a Brymbo ac yn ddiweddarach fel un o reolwyr cyntaf ysgol Grove Park yn Wrecsam. Bu'n aelod o senedd Coleg y Brifysgol ym Mangor am flynyddoedd lawer.
Herio'r uchelwyr
Evan Kenffig Jones oedd un o'r rhai cyntaf yng nghylchoedd Wrecsam i herio hawl y tirfeddianwyr a'r uchelwyr lleol i wasanaethu fel cynghorwyr sirol a cheir hanes am un o'r gornestau hyn yn Gyda'r Hwyr, cyfrol o ysgrifau gan E. Tegla Davies. Ym mlynyddoedd olaf y bedwaredd ganrif a'r bymtheg 'roedd Tegla yn ddisgybl-athro yn ysgol y Bwlchgwyn, sydd heb fod nepell o Frymbo, ac Evan Kenffig Jones oedd cadeirydd y Bwrdd ysgol yno.
Penderfynodd Evan Kenffig sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad i'r Cyngor Sir yn erbyn Venables Kyrke, gŵr plas y Glasgoed a oedd wedi gwneud ei arian allan o'r mwyngloddiau plwm yn yr ardal honno. Ni feiddiai neb ymgeisio yn erbyn Kyrke: Ond mentrodd "gwr ieuanc â chudyn barf a phen blaen ganddo i wrthwynebu gwr y plas"
Evan Kenffig Jones oedd hwnnw a phan gyhoeddwyd canlyniad yr etholiad yn ysgol y Mwynglawdd gwelwyd fod Kyrke wedi ennill - ond pedwar ar ddeg yn unig oedd ei fwyafrif. Siomwyd gŵr y plas pan sylweddolodd cyn lleied ei fwyafrif ac aeth ati i erlid cefnogwyr Evan Kenffig. Bu ffrwgwd mawr wedi i ganlyniad yr etholiad gael ei gyhoeddi a chyrchodd cefnogwyr E. K. Jones i wawdio a dirmygu cefnogwyr Venables Kyrke.
Ennill y dydd
'Roedd Tegla ei hun ar gwr y fintai gynhyrfus ac onibai i'w ysgolfeistr ddod heibio a'i alw ato byddai wedi ei wysio gan wr y plas am greu cynnwrf. Gwysiwyd y gweddill a fu'n rhan o'r cyffro ond fe'u hamddiffynwyd yn y llys gan Wyn Evans, cyfreithiwr galluog o Wrecsam.
Ef enillodd yr achos a daeth y llanciau'n rhydd. Yr oedd hyn yn ormod i ŵr y plas a chiliodd ef a'i deulu. Daeth cyfle a thro'r gwerinwr i gynrychioli'r ardal ar y Cyngor sir. Evan Kenffig Jones oedd yr allwedd i'r newid a'r llwyddiant mawr hwn yng ngwleidyddiaeth ardal Bwlchgwyn a Choedpoeth.
Bu Evan Kenffig yn weinidog ym Mrymbo o 1891 hyd at 1913 a gwnaeth gyfraniad neilltuol i'r ardal fel gweinidog ac fel arweinydd cymdeithasol. Yr oedd hefyd yn ddirwestwr pybyr. Ymladdai yn erbyn y bragwyr mewn llysoedd trwyddedu a byddai'n ennill yn aml trwy ei daerni a'i ddyfalbarhad.
Dywedir fod un o'r cyfreithwyr a gynrychiolai'r bragwyr wedi dweud fod E. K. Jones "cystal ag ugain o'n dynion ni." Bu'n gadeirydd 'Undeb Dirwest Gwynedd am naw mlynedd.
Ymgyrch heddychol
Mae'n debyg mai fel heddychwr y gwnaeth ei gyfraniad cymdeithasol mwyaf nodedig. 'Roedd Rhyfel Byd Cyntaf ar fin cychwyn ac Evan Kenffig Jones wedi symud erbyn hyn i fugeilio eglwys Tabernacl y Bedyddwyr yng Nghefn Mawr. Yr oedd nifer o fechgyn ieuanc ei eglwys wedi'u galw i wasanaethu yn y fyddin.
Yr oedd rhai i gydnabod yn wrthwynebwyr cydwybodol hefyd byddai yn ymweld â hwy mewn gwersylloedd charchardai. Fe'i hamddiffynnai hwy mewn llysoedd barn. Brwydrai hefyd yn erbyn trais gormes a phob anghyfiawnder. Ysgrifennai'n gyson i'r wasg dros yr achos heddwch a thros hawliau dynol a chyhoeddodd Atgofion am Dri Rhyfel, cyfrol yng nghyfres Pamffledi Heddychwyr Cymru.
Awdur toreithiog
Yr oedd yn awdur toreithiog. Cyfrannai erthyglau i'r cyfnodolion Cymraeg a Saesneg ac y mae rhai o'r ysgrifau hyn fel "Ffrindiau drigain mlynedd yn ôl" a "Rhai o geffylau'r pwll glo" a ymddangosodd yn y Western Mail ym 1939 yn rhoi darlun byw iawn o fywyd y glöwr ym Mlaenllechau yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cyhoeddodd hefyd nifer o gyfrolau sylweddol ar hanes lleol fe Harwt a Bryn Seion, hanes eglwys Annibynnol Brymbo, The story of Eduction in a Welsh border parish 1934' a 'A short sketch of the history of the Baptist Chapel at Llanidloes 1908'. Ef a ystyrir fel yr arbenigwr mwyaf ar lythyrau Cymanfaoedd y Bedyddwyr a cheir casgliad enfawr o'i bapurau yn y Llyfrgell Genedlaethol.
Fel y gellir disgwyl yr oedd yn flaenllaw yng ngweinyddiad Undeb y Bedyddwyr a bu'n ysgrifennydd a chadeirydd Cymanfa Dinbych, Fflint, a Meirion. Ef oedd llywydd Undeb y Bedyddwyr ym 1928. Wedi iddo ymddeol ym 1934 aeth i fyw i Wrecsam a pharhaodd i weithio'n gymdeithasol ac fel awdur. Fe'i hanrhydeddwyd gyda doethuriaeth gan Brifysgol Cymru ym 1937. Bu farw ar 18 Gorffennaf 1950 yn 87 mlwydd oed.
Nid oes amheuaeth fod y gŵr hwn a anwyd ym Mryndu, Mynydd Cynffig wedi gwneud cyfraniad arbennig i fywyd crefyddol a chymdeithasol Cymru ac fel y dywedwyd amdano mewn hanesyn yng nghyfres "Arweinwyr Ddoe" yn Seren Cymru ym 1956.
"Apostol heddwch, arwr mawr dirwest, lluniwr doeth a medrus ym myd addysg, hanesydd a hynafiaethydd medrus. Bedyddiwr selog a digymrodedd, pregethwr coeth a gweinidog rhagorol, brwydrwr na freuddwydiai am ildio'r dydd."
Ie, un felly oedd Evan Kenffig Jones.