Dyna sut y sefydlwyd Lloches St John's, lloches a ddaeth yn llwyddiannus iawn, ac yn dal i barhau felly.
Dros ddeunaw mis yn ôl daeth aelodau o glymblaid o eglwysi a mudiadau eraill at ei gilydd yn cynnwys Trefnu Cymunedol Cymru i geisio datrys problem gymunedol arall sef problem y rhai oedd wedi eu caethiwo gan gyffuriau.
Ac felly roedd eu ffordd o fyw yn eu gwneud yn ddi do oherwydd eu ymddygiad ac yn creu llawer o bryder yn y dref ac oddi allan.
Yr oedd y broblem yma hefyd yn broblem fu yn poenydio aelodau Capel y Groes a'r gofalwr am amser maith.
Bu trafod ar ôl trafod, ceisio, chwilio am ateb a chymorth gan asiantaethau, yr heddlu ac yn y blaen heb unrhyw lwyddiant cadarn.
Trwy sefydlu'r glymblaid darganfuwyd bod llawer o fudiadau a busnesau eraill yn dioddef yr un broblem.
Yn ystod y datblygiad hwn dangosodd Gwmni Teledu Alfresco 'ddiddordeb yn y mater a chytunwyd cyd weithio gyda hwy i wneud oddi mewn y gyfres Helpu'r Achos.
Pedwar o Gapel y Groes fu yn flaenllaw yn yr ymgyrch oedd Aled Pritchard, Menna Davies, Y Parchedig Robert Parry ac Elwyn Williams.
Y mae Capel y Groes yn aelod cyflawn o drefnu Cymunedol Cymru. Diwedd yr ymgyrch yw i Gysgodfa Nos agor mewn adeilad yng nghefn adeiladau Gwasanaeth Lles Cyngor Wrecsam, ac y mae y Gysgodfa yn rhoi adnoddau cysgu, ymolchi ac yn y blaen i ddeg o unigolion bob nos o'r wythnos.
Cafwyd cefnogaeth llawer o aelodau o'r Eglwysi mewn perthynas a chyfrannu blancedi, tyweli ac yn y blaen.
Oherwydd diffyg lle i ystorio, nid ydynt yn gallu derbyn eitemau heblaw tuniau o fwyd/ffrwythau ac offer ymolchi erbyn hyn.
|