Roedd Gwyn wedi gwasanaethu yn yr Heddlu am nifer dda o flynyddoedd ac roedd yn hynod boblogaidd ymhlith ei gyd-weithwyr.Roedd ei golli ac yntau yn ddyn cymharol ifanc wedi iddo ymladd yn ddewr yn erbyn y gwaeledd a'i daliodd yn achos tristwch mawr i bawb a'i hadwaenai. Doedd ryfedd yn y byd i'w arwyl ym Mhentrebychan fod yn achlysur a welodd gannoedd yn talu'r deyrnged olaf.
Lle cynnes yng nghalon pawb
Roedd y nifer sylweddol o hen gyfeillion Gwyn o fyd y bêl hirgron a oedd yn bresennol, y diwrnod hwnnw, yn dyst i'r ffaith iddo ennill parch ac edmygedd ei gyd-chwaraewyr a lle cynnes yng nghalon pawb a ddaeth i'w adnabod.
Yn sicr, roedd yn un o'r chwaraewyr gorau a fu ar feysydd rygbi y Gogledd ac, yn wir, trwy Gymru ben baladr.
Daeth i fyny i'r Gogledd o'i ardal enedigol yn y De yn wr ifanc iawn i ddechrau ar ei yrfa yn yr Heddlu, a gellir dweud yn bur sicr y byddai Gwyn, petai wedi aros yn y De a chael chwarae i un o'n prif glybiau, wedi chwarae llawer gwaith dros Gymru.
Yn ystod yr wythdegau a dechrau'r nawdegau fe ddigwyddodd i Glwb Rygbi Wrecsam allu casglu nifer o chwaraewyr dawnus at ei gilydd a chreu tîm na welir ei fath byth eto yn y Gogledd mae'n debyg.
Cryfder y blaenwyr
Os oes un gyfrinach arbennig ynglyn â'u llwyddiant fel tîm mae'n debyg mai cryfder y blaenwyr oedd hwnnw - ac roedd gan Gwyn lawer i'w wneud â hynny.
Lawer gwaith, bu cefnogwyr tîm Wrecsam yn dyst i un o'r golygfeydd mwyaf cofiadwy y gellid ei gael ar gae rygbi - Gwyn yn cyrraedd sgarmes, yn cymryd y bêl ac yn troi i wynebu ei gefnwyr ei hun fel pe bai am gynnig y bêl iddyn nhw ac, yna, yn troi yn sydyn ac yn mynd am y gwrthwynebwyr nerth ei draed.
Dyna olygfa i beri arswyd ymhlith y tîm arall. Roedd gan y dorf ofn heb sôn am y rhai oedd i fod i'w rwystro a'i dynnu i lawr! Enillai Gwyn dir lawer i'w ochr ac erbyn hynny roedd cefnwyr chwim Wrecsam o fewn cyrraedd i'r llinell gais.
Chwaraeodd y tîm hwnnw o Wrecsam yn erbyn clybiau gorau Cymru. Gallent herio unrhyw dîm heb achos cywilyddio dim.
Pob un yn gosod her
Uchelgais y bechgyn hynny oedd dod at ei gilydd a phob un yn gosod her iddo'i hun sef profi fod ganddo'r ddawn i gystadlu a chyrraedd y safon ofynnol.
Doedden nhw ddim am fynd i leoedd dieithr i ennill gymaint ag allen nhw o arian a boddhau ryw berchnogion a noddwyr cefnog.
Profi rhywbeth iddyn nhw eu hunain a chael mwynhad wrth wneud, dyna oll, a rhoddent fwynhad i'r gwir gefnogwyr yr un pryd. Ie, anrhydedd oedd cael gweld Gwyn a rhai tebyg iddo yn chwarae.
Hyfforddwr arbennig
Yn ddiweddarach daeth Gwyn yn hyfforddwr arbennig - un oedd yn deall ei chwaraewyr ac un a gâi 'r gorau o'u dawn ganddyn nhw drwy roi ei orau ef bob amser.
Yn ôl y sôn roedd ei gryfder corfforol o gymorth mawr i Gwyn pan oedd wrth ei waith, hefyd. Bu i lawer penbwl swnllyd dawelu yn eithaf sydyn wrth deimlo llaw gref Gwyn ar ei war.
Ond pan nad oedd wrth ei waith, un hwyliog a chyfeillgar oedd gyda phawb. Parhaodd i gyfarch pawb yn siriol hyd y diwedd a wynebodd ar ddioddefaint blin yn ddi-ildio yn union fel yr un a wynebai pac o flaenwyr.
Nid oedd ildio yn rhan o'i bersonoliaeth. Rydym i gyd yn mynegi ein cydymdeimlad dwysaf â Pat a fu'n gefn iddo trwy gydol ei waeledd a David eu mab yn ogystal.