Fe'i lansiwyd yn Llyfrgell Wrecsam ddiwedd Tachwedd yng nghwmni' r bardd ei hun, y Prifardd Elwyn Edwards a'r canwr Arwel Tanat.
Roedd hi'n noson i'w chofio yn hanes Aled ac roedd dros 70 o bobl wedi dod yno i'w gefnogi.
Mae hynny'n dyst o boblogrwydd Aled fel bardd ac yn deyrnged iddo am ei ymdrechion i gynnal y grefft o farddoni ar y ffin.
Ag eithrio dwy gerdd (Ysgol y Gororau a'r Emyn) mae'r cerddi i gyd mewn 'vers libre' ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae Aled wedi dod yn bencampwr ar y cyfrwng hwnnw.
Mae'r cerddi'n delio â'r gwahanol brofiadau mae Aled wedi'u cael fel athro yn Ysgol Morgan Llwyd, ar ei ymweliadau â'r hen gynefin yn Ardudwy (ac yn ardal Llandudno a Chorwen), ar ei wyliau yng Nghatalonia, Iwerddon, Groeg a Fenis.
Ac y profiadau a gafodd o ymweld â'r gwahanol leoedd fel Abaty Glyn y Groes, Pontrobert, Coleg Bangor, Cap'el Celyn, Abaty Cwm Hir (pam y teitl 'Cwm Abbey Hir' sgwn i?), Lindisfarne a Lerpwl.
Mae yma gerddi amrywiol hefyd lle mae Aled yn myfyrio amdano'i hun ac am fywyd yn gyffredinol. Profiadau real bywyd ydyw'r rhain ac mae Aled yn ymateb yn ddwys-farddonol iddynt, weithiau a chyffyrddiadau o hiwmor a'i dafod yn ei foch.
Weithiau fe welwch chi'r wen ar ei wyneb a'r llygaid yn pefrio!
Na, nid creu bywyd ffantasiol a ffugio sefyllfaoedd (fel y gwneir mewn llawer o raglenni teledu heddiw) y mae Aled, ond cofnodi ei brofiadau fel y maent.
Mae'n fardd sensitif iawn sy'n ymdeimlo gyda harddwch a hacrwch bywyd ac yn ymateb yn gynnes i wahanol leoedd a phersonoliaethau.
Na, does dim angen y camerâu teledu ar Aled i greu sefyllfaoedd a phrofiadau mae ei fywyd ef ei hun yn gyfoethog o'r rheini fel y mae.
Ac yn y gyfrol hon rydym ni'n cael y fraint o rannu'r profiadau hynny gyda'r bardd ei hun Mynnwch hi ar bob cyfrif.
Fel y dywed y Prifardd Ceri Wyn Jones:
"Mae'r cerddi i gyd feI 'snapshots' o'r profiadau - ond nid 'snapshots' confensiynol, cysurus. yn hytrach gwelwn luniau'r artist o ffotograffydc sydd. a'i gamera'n gweld y tu hwnt i'r arferol; yn gogwyddo'n wahanol; yn canfod ystyr a del wedd yn y pethau mwyaf cyffredin ac anghyffredin fel ei gilydd. A phob llun yn eglur ac yn olau, ac wedi'u printio ar ffilm y 'vers libre'."
Cofiwch y bydd llyfr newydd arall gan Aled, o'r enw ADLAIS, yn cael ei gyhoeddi yn y Gwanwyn (gan Gyhoeddiadau'r Gair), sef casgliad o adnoddau gwreiddiol yn dilyn y tymhorau; llyfr a fydd yn addas ar gyfer gwasanaethau eglwysi neu ysgolion ac ar gyfer unigolion.
Edrychwn ymlaen yn eiddgar i'w ddarllen.