91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Rygbi yn Wrecsam Rygbi yn Wrecsam!
Chwefror 2010
Ar nos Wener yr 28ain o Ionawr chwaraeodd tîm Rygbi'r Gynghrair y Crusaders eu gêm gyntaf yn eu cartref newydd ar y Cae Ras yn Wrecsam.

Mae Clwb Pêl-Droed Wrecsam wedi cymryd rheolaeth o'r tîm a bydd y Crusaders yn chwarae 11 o'u 13 gêm gartref ar y Cae Ras, gyda'r ddwy arall yn cael eu chwarae yn Ne Cymru.

Yn ôl Prif Weithredwr Wrecsam, Paul Retout: "Mae dod â'r 'Super League' i Wrecsam yn cyfateb i ddod â phêl-droed yr Uwch Gynghrair i Gymru. Mae'r Crusaders yn rhoi Wrecsam ar y map. Mae'n newyddion gwych i'r dref, i Gymru ac i rygbi'r gynghrair".

Dywedodd Prif Hyfforddwr y tîm, Brian Noble, ei fod yn awyddus i'r tîm gynrychioli Cymru, ac i ddatblygu chwaraewyr ifanc o Gymru. Mae sawl chwaraewr Cymraeg eisoes yn y garfan fel Jordan James, capten y tîm cenedlaethol, ac mae Iestyn Harris, cyn seren Cymru yn y ddau gôd rygbi, yn is-hyfforddwr. Ryan O'Hara yw capten y tîm.

Dinas Wrecsam?
Mae dyfodiad y Crusaders yn ddatblygiad arall yn Wrecsam a fydd yn ychwanegu at gais cryf y dref i ennill statws dinas yn 2012. Mae llawer yn credu ein bod eisoes yn ddinas ym mhob ystyr heblaw enw, ac mae sefydlu Prifysgol Glyndwr ac agor Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod wedi cadarnhau hyn. Gyda dyfodiad yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2011 mae hi'n adeg cyffrous, a phrysur, yn hanes y dref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý