Gwlad debyg o ran maint i Gymru a sydd wedi sefydlu cysylltiad clos â'n gwlad ni trwy Ddolen Cymru-Lesotho. Roeddem yn meddwl y basai'n briodol i ni gael gwybod mwy am ei phrofiadau yn y wlad dlawd hon a dyma Betsan yn ymateb yn syth bin i'n cais am ychydig o'r hanes. Diolch yn fawr iddi am ei pharodrwydd a'n dymuniadau gorau iddi yn ei gyrfa.
Pan gyrhaeddais Lesotho teimlwn ryw gymysgedd o ofn a nerfusrwydd ond hefyd roeddwn yn gyffrous i gyrraedd yr ysbyty a chael blasu profiadau newydd. Cefais i a Sian daith go 'bumpy' ar yr awyren fechan yn hedfan o Johannesberg i Maseru, prifddinas Lesotho. Cawsom ein croesawu gan un o aelodau Dolen Cymru-Lesotho a roeddem yn aros ym Maseru am noson cyn gorfod ei 'roughio' hi yn yr ysbyty!
Wrth yrru ar hyd y ffyrdd troellog o Maseru i Mapoteng, y pentre lle roedd Ysbyty Maluti, roeddwn wedi fy synnu gan y tai tila, tlawd eu golwg a'r niferoedd o bobl oedd i'w gweld yn cerdded am filltiroedd a milltiroedd mewn esgidiau tyllog. Roedd yn dipyn o sioc cyrraedd yr ysbyty a chael ein gadael i mewn gan swyddog arfog efo gwn anferth!! Cawsom ein plesio ar yr ochr orau gan y tÅ· roeddem yn aros ynddo achos roeddem yn rhannu gyda doctor o'r Congo - ac un llygoden fawr! !
Roedd yr ysbyty wedi'i rhannu i mewn i wardiau dynion, merched a phlant gydag Adran Cleifion Allanol yn agored i unrhyw un gydag unrhyw fath o broblem, gan gynnwys achosion brys. Trist oedd gweld cyflwr yr ysbyty - gwahanol iawn i'r hyn yr oeddwn wedi arfer ag o nôl yng Nghymru.
Diwrnod cyntaf
Roedd y diwrnod cyntaf yn brysur iawn a chawsom ein taflu i mewn iddi yn syth i ffwrdd - y claf cyntaf wedi torri hanner ei bys i ffwrdd wrth weithio mewn ffatri ddillad. Yr oedd yn arferol i gael ambell i glaf bob diwrnod yn dod i mewn yn sâl iawn gyda chymhlethdodau oedd wedi datblygu oherwydd HIV. Nid wyf erioed wedi gweld pobl mor ifanc yn dioddef gymaint o salwch - roedd yn drist iawn gorfod gweld pobl yn eu hugeiniau a thridegau yn marw bron bob diwrnod gan adael plant bychain yn amddifad.
Roedd llawer iawn o blant a babanod hefyd yn dioddef o HIV ac yn treulio eu bywydau byr yn dod i mewn ag allan o'r ysbyty. Er hyn i gyd, roedd y cleifion yn ddiolchgar iawn am unrhyw gymorth ac anaml iawn i'w clywed yn cwyno am unrhyw beth.
Cleifion yn dioddef ond yn ffrindau da
Gwnes nifer o ffrindiau newydd, gan gynnwys doctoriaid o'r Congo, y nyrsys a rhai o'r cleifion oedd yn yr ysbyty am amser hir. Dwy glaf y gwnes ddod yn agos iawn atynt oedd baban pum mis o'r enw Tumisang a'i mam 23 oed; roedd y ddwy yn dioddef o HIV a'r baban heb ennill dim pwysau ers cael ei geni ac yn anffodus roedd y fam wedi datblygu TB hefyd. Roeddent yn dlawd iawn gan fod y fam yn rhy sâl i weithio ac roedd hi'n gorfod edrych ar ôl teulu mawr gan fod ei rhieni hi ei hunan wedi marw.
Roeddwn i a dau ddoctor o Alaska yn trio helpu trwy brynu bwyd iddi hi a'r teulu ac yn golchi clytiau Tumisang a'i hymolchi bob diwrnod er mwyn trio achub egni y fam. Roedd Tumisang yn faban hyfryd a phrydferth, ond yn anffodus ni fu ei bywyd yn hir iawn - wythnos ar ôl i ni adael bu iddi farw yn 5 mis a 3 wythnos oed.
Mae yna nifer o gleifion yn aros yn fy meddwl ar ôl fy mhrofiadau yn Ysbyty Maluti; eu dewrder oedd yn fy synnu. Yn wyneb tlodi a salwch roeddent yn benderfynol o aros yn bositif ac yn gefn i'w teulu. Y Nadolig hwn byddaf yn cofio am y bobl annwyl i mi gyfarfod yn Lesotho ac yn gobeithio eu bod nhw yn cadw'n ddiogel. Roedd llawer yn dlawd ac yn methu fforddio triniaeth, ond gyda'r arian y gwnaeth pobl Wrecsam fy helpu i'w hel, bydd nifer o gleifion yn derbyn gwasanaeth gwell na'r arfer. Diolch i chi i gyd.
|