91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Pant yr Ochain Wrecsam heddiw a ddoe
Gorffennaf 2009
Gareth Vaughan Williams yn edrych yn ôl at etholiad diddorol.

Achlysur tawel a digyffro oedd yr etholiad ar gyfer Senedd Ewrop ar 4 Mehefin 2009. Pan es i i bleidleisio roedd mwy o swyddogion yn disgwyl am gwsmeriaid nag o bleidleiswyr. Roedd yn rhaid cyflwyno cerdyn etholiad gydag enw a rhif. Roedd swyddog yn ei gymharu â rhestr o etholwyr a swyddog arall yn rhoi papur pleidlais i mi. Wedyn mynd i'r bwth er mwyn pleidleisio yn y dirgel a wedyn rhoi'r papur yn y blwch du oedd dan glo. Heddiw mae gan bawb dros 18 oed yr hawl i bleidleisio dim ond iddynt gofrestru. Mae'r hawl hyn yn hawl bu ymladd i'w hennill dros yn y bedwaredd ganrif ar ddeg a dechrau'r ugeinfed ganrif. Ond erbyn hyn y drasiedi yw bod cyn lleied o bobl yn defnyddio'r hawl i ddewis ein cynrychiolwyr yn y Cynulliad, y Senedd neu Senedd Ewrop. Yn Wrecsam, fel yng ngweddill y wlad, roedd yn anodd dweud bod etholiad ymlaen o gwbl.

Roedd pethau'n wahanol iawn yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Ychydig iawn o bobl oedd â'r hawl i bleidleisio. Dynion yn unig oedd ym meddu ar bleidlais. Roedd yn ofynnol i fod yn berchen ar dir ac i ddweud y gwir dim ond gan dirfeddianwyr a'u rhydd-ddeiliaid a'u tenantiaid oedd yr hawl i bleidleisio. Y tirfeddiannwr oedd yn penderfynu i bwy y dylai ei denantiaid bleidleisio a phetai dyn yn gwrthod fe fyddai'n colli ei fferm. Roedd yn rhaid hefyd i'ch bleidlais fod yn gyhoeddus. Y teuluoedd cefnog o dirfeddianwyr oedd yn penderfynu pwy oedd yn mynd i gynrychioli'i sir yn y Sendd a'r rhan amlaf fe fyddai cytundeb ar bwy fyddai'n mynd i Dy'r Cyffredin a felly nid oedd yn rhaid cynnal etholiad. Weithiau fe fyddai dau deulu yn ymladd am yr hawl i gynrychioli'r sir yn y Senedd a wedyn fe fyddai gornest galed, ddrud a chas ac ar adegau byddai'n ornest waedlyd.

Yn 1588, blwyddyn cyfieithu'r Beibl i'r Gymraeg a blwyddyn yr Armada, cynhaliwyd etholiad yn Wrecsam i ddewis cynrychiolwr ar gyfer Sir Ddinbych. Y dyn oedd wedi cynrychioli'r Sir yn y Senedd flaenorol oedd William Almer, Pantyokyn, sef Pant yr Ochain heddiw. Roedd Almer wedi cael cefnogaeth teulu Llewenni, y prif deulu yn y sir. Oherwydd hyn roedd ganddo gefnogaeth teulu Rug and theulu Plas y Ward. Gyda'r holl gefnogaeth, dros fil o bleidleisiau, roedd yn amlwg bod Almer yn mynd i gynrychioli'r sir. Ond roedd gan Almer elynion yn ardal Wrecsam - teulu Edwards, New Hall, Y Waun, teulu Puleston Emral a Brereton o Borras. Rhyngddynt dim ond 700 o bleidleisiau oedd ar gael.

Ond roedd ganddynt un fantais fawr gan fod Brereton yn Siryf y Sir a'r siryf oedd yn derbyn y 'writ' i gynnal etholiad ac yn penderfynu amser a lleoliad yr etholiad. John Edwards oedd y cynrychiolydd. Roedd yr etholiad i'w chynnal yn Wrecsam ar 8 Hydref yn Neuadd y Sir (Shire Hall) oedd rhwng Town Hill a High Street. Daeth holl gefnogwyr Almer i Wrecsam yn barod i gyhoeddi'u cefnogaeth i Almer yn Neuadd y Sir. Cyn 8yb mi lanwon nhw Neuadd y Sir gyda'r bwriad o rwystro cefnogwyr Edwards rhag mynd i fewn i bleidleisio a chael y Siryf i gyhoeddi Almer yn fuddugol. Ond roedd cynllun ar droed. Cynhaliwyd cyfarfod gan gefnogwyr Edwards yn nhÅ· John Owen yn High Street.

Penderfynodd y Siryf, Brereton, gynnal yr etholiad mewn tŷ ar gyrion Wrecsam, Stansty mae'n bosib, cartref perthynas a chefnogwr i John Edwards. Fe wnaeth hyn heb hysbysebu Almer a'i gefnogwyr ac erbyn iddynt ddarganfod y cynllun a symud o Neuadd y Sir i Stansty roedd holl gefnogwyr Edwards wedi llenwi'r tŷ gan weiddi, "Edwards, Edwards!". Roedd cefnogwyr Almer tu allan yn gweiddi "Almer, Almer!" ond yn methu mynd i fewn i bleidleisio. Felly mae'r Siryf yn cau'r etholiad ac yn cyhoeddi Edwards yn fuddugol. Fe aeth Edwards i'r Senedd i gynrychioli Sir Ddinbych. Aeth Almer â'r achos ger bron Llys Siambr y Seren a chyflwyno tystion ond roedd y Senedd wedi cyfarfod, wedi cwblhau'r busnes a'r aelodau wedi dychwelyd i'w cartrefi cyn i'r Llys ddod i benderfyniad.

Roedd etholiad 1588 yn un cynhyrfus iawn a wedi creu diddordeb mawr i bobl Wrecsam er nad oedd ganddynt bleidlais. Rwy'n sicr y byddai'r fath yna o etholiad yn codi llawer mwy o frwdfrydedd heddiw ac fe fyddai aelodau'r wasg yn cael amser wrth eu bodd.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý