91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Gogledd Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Oriel yr Enwogion

Trefi

Hanes

Lluniau

Dweud eich dweud

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Clawdd
Twr yr Eglwys Dathlu'r Pum Canfed
Mai 06
Tŵr Eglwys Wrecsam yn 500 oed
Ar Ddydd Sadwrn, Mehefin 10fed, cynhelir Ffair Duduraidd ar dir Eglwys y Plwyf ac ar hyd Stryd yr Eglwys i ddathlu 500 mlynedd oddi ar adeiladu Tŵr yr Eglwys. Mae'r tŵr yn fyd-enwog ac fe'i ystyrir yn gampwaith pensaernïol o'i fath.

Ers cyfnod cynnar iawn, roedd yn cael ei ystyried yn un o saith rhyfeddod Cymru (ynghyd â Phistyll Rhaeadr, Yr Wyddfa, Coed Yw Wrtyn, Ffynnon Gwenffrewi, Pont Llangollen a Chlychau Gresford.) Adeiladwyd tŵr ym Mhrifysgol Yale, Connecticut, Unol Daleithiau'r Amerig ar lun a delw'r twr yma yn Wrecsam (oherwydd y cysylltiad ag Elihu Yale o Blas Grono) ac mae'n debyg i Dŵr Fictoria yn San Steffan gael ei gynllunio yn yr un modd.

Saif y tŵr fel ffenics, 136 o droedfeddi, uwchben Wrecsam ac fe'i gwelir o bell wrth ddynesu at y dref. Fe'i adeiladwyd yn ystod teyrnasiad Harri'r 7fed (1485 - 1509) ac yn ddiddorol iawn, wrth baratoi ar gyfer y Farchnad Fictoraidd a gynhaliwyd y Nadolig diwethaf, fe ddaethpwyd ar draws arysgrif ar y tŵr ag arno'r dyddiad 1506. Mae'n siŵr fod y twr wedi cael ei adeiladu dros gyfnod hir o flynyddoedd ac mae'n bosib nas gorffennwyd yn iawn tan tua 1520.

Talwyd am yr holl waith gan Margaret Beaufort, mam Harri'r 7fed ei hun. Beth bynnag, mae'r dyddiad 1506 yn anwadadwy a dyna pam y dethlir yr achlysur eleni.

Oes y Tuduriaid (cerddorion, dawnswyr, crefftau, gwerthwr creiriau sanctaidd, apothecari a gefail Duduraidd) a hefyd gwahanol stondinau'n gwerthu bwydydd, planhigion a gwaith crefft. Cynhelir y ffair rhwng hanner dydd a 7.00 o'r gloch y nos a bydd cyngerdd o fiwsig canol-oesol yn dilyn yn yr Eglwys. Os oes diddordeb gan unrhyw un i fod yn rhan o'r dathliadau, yna cysylltwch â Kay Richard ar 292536.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý