Nid yn aml y dowch o hyd i berson sy, ar y naill law yn siarad
Cymraeg rhugl tra, ar y llaw arall yn siarad Saesneg gydag acen
Cocni pur. Ond dyna'r cyfuniad diddorol a geir ym mhersonoliaeth John Morris J (Coed y Gyn), un o sylfaenwyr Y Clawdd, ein papur bro ni yn Wrecsam a gychwynwyd, ychydig dros ugain mlynedd yn ôl.
Erbyn hyn mae John wedi ymddeol o'i waith llawn-amser fel pennaeth ysgol, ond deil i weithio'n rhan-amser fel ymgynghorydd yn y byd addysg, gan arbenigo ar gynghori staff ysgolion a cholegau ynglyn â phroblemau ymddygiad disgyblion a myfyrwyr afreolus ac anhydrin, yn arbennig yn nhrefi Canolbarth LIoegr.
Ganwyd a magwyd John yn Hammersmith, Llundain ar ddiwedd yr ail Ryfel Byd; teulu'i fam yn hanu o Poplar yn yr 'East End' a'i dad yn un o fechgyn fferm Maen Efa, Tremeirchion. (Roedd cysylltiadau gan deulu'i dad a Sir Aberteifi'n wreiddiol a dyna pam y 'Teifi' yn ei enw.)
Ar ôl priodi, symudodd ei rieni i Lundain i chwilio am waith, ei dad yn cael swydd fel warden yng ngharchar Wormwood Scrubs cyn cael gwaith wedyn mewn ffatri cynhyrchu bysiau. Byw i ddechrau mewn fflat uwchben Hufenfa Rhys Price yn Hanmersmith Grove ac yna ar ôl ychydig flynyddoedd, symud i dŷ-capel y Capel Cymraeg yn yr ardal i fod yn ofalwyr y capel.
Er bod y teulu'n mynychu'r capel Cymraeg, Saesneg oedd iaith y
cartre a Saesneg oedd iaith gyfathrebu llawer iawn o Gymry
Cymraeg y capel - sefyllfa sy'n cael ei hail-adrodd mewn llawer o gapeli Cymraeg heddiw yn ôl John, a sefyllfa sy'n peri tipyn o boen meddwl iddo.
Oherwydd amgylchiadau yn gynnar iawn yn ei fywyd felly amddifadwyd John o'r cyfle i siarad Cymraeg ond, fel y gwyddys, mae gwaed yn dewach na dŵr. Pan oedd John ar ei wyliau ar ffermydd teulu'i dad ym Mynydd Bychan a Bodeugan yn Nyffryn Clwyd cafodd gyfle i afael yn ei Gymreictod cynhenid a siarad
rhywfaint o Gymraeg gyda phlant yr ardal ac aelodau'r teulu,
yn arbennig chwaer ei dad a aeth ati i ddysgu Cymraeg naturiol Sir
Y Fflint iddo.
Yn ifanc iawn, bu rhaid i John ddysgu sut i ennill ei fara a phan yn yr ysgol arferai weithio ar y Sadwrn i ennill ceiniog neu ddwy ar stondin ffrwythau ym marchnad Hammersmith ac yna mynd a bara a chacennau o gwmpas mewn fan i siopau bach yn yr ardal. Hefyd, yn ystod y gwyliau arferai weithio mewn siopau mawrion fel Y Co-op, Burton, Weaver to Wearer, John Collier, Barbers a Selfridges!. Does ryfedd felly fod John yn un da am daro bargen!
Ar ôl cyfnod o hyfforddiant yng Ngholeg Dudley, bwriodd John ei brentisiaeth fel athro yn nhalcen caled World's End, Chelsea ac yna fel athro ymarfer corff a mathemateg mewn ysgol uwchradd yn Notting Hill, un o ysgolion caletaf y brifddinas.
Ond doedd hi ddim yn 'ddiwedd byd' arno, ac fe ymlafniodd John ymlaen ac fe brofodd y cyfnod yma i fod y cyfnod ffurfiannol pwysicaf yn ei fywyd.
Yn ychwanegol i'w waith fel athro, daeth yn hyfforddwr ffitrwydd i Glwb Bocsio Middle Row (un o glybiau Audley Harrison), yn hyfforddwr pêl-droed i dîm dan 15 Ysgolion Gorllewin Llundain ac yn hyfforddwr efo ieuenctid yng Nghlwb Pêl-droed Fulham - yn meithrin ac ymarfer dawn hyfforddi a ddaeth yn ddefnyddiol iawn iddo'n ddiweddarach mewn clybiau ieuenctid a dosbarthiadau nos i
oedolion yn y dre hon.
(Am 28 o flynyddoedd, bu'n hyfforddi codi pwysau a chadw'n heini yng Nghlwb Ieuenctid Queen's Park, ac am 10 mlynedd bu'n
hyfforddwr ffitrwydd i Glwb Rygbi, Wrecsam. Mae'n arbennig o falch o'r dosbarth cadw'n heini drwy gyfrwng y Gymraeg a sefydlodd i oedolion yn Ysgol Morgan Llwyd.)
Er ei fod yn ei gael ei hun yng nghanol môr o Seisnigrwydd fel
hyn ar ddechrau'i yrfa, roedd gwaed Cymraeg yn llifo'n gryf drwy'i wythiennau a deuai'n fwy ymwybodol o'r angen i'w uniaethu'i hun â'r bywyd Cymraeg.
Felly, dyma ymuno â chor Ieuenctid Cymry Llundain yn 1967 lle cafodd gyfle i 'marfer ei lais tenor melodaidd
ac i gymdeithasu a Chymry ifanc y brifddinas; Ymuno â Chlwb
rygbi Y Great Western Railway ac ar Nos Sadwrn ymuno â'r
Cymry ifainc yn nhafarn Y Cock Tavern, Great Portland Street, ac Nos Sul yn y Prince of Wales, Holborn i gael sgwrs a chanu emynau.
Yn ôl John, roedd hi'n werth yr ymdrech i geisio cael cyfle i siarad ychydig o Gymraeg yng nghanol Llundain, yn enwedig pan gyfarfu ag Eirlys yno yn 1969, y ferch o ardal Prion a ddaeth yn Wraig iddo
bum mlynedd yn ddiweddarach.
Yna, yn 1972, treulio tair mlynedd yng Ngholeg y Brifysgol, Aberystwyth yn dilyn cwrs mewn addysg ac ymarefer corff a dod dan ddylanwad pobl amlwg fel Gwyn Evans (parthed â ffitrwydd a chadw'n heini) a'r athro Jac L. Williams (parthed gwerth dwyieithrwydd.)
Yna yn 1975, symud i Wrecsam a chael swydd prifathro yn y Ganolfan Gadw ym Mersham cyn ei bendoi'n bennaeth y Ganolfan ddysg Arbennig ar safle hen ysgol Gymraeg Bodhyfryd lle y bu am ddeunaw mlynedd cyn ymddeol yn gynnar.
Ond nid un i eistedd i lawr a'i draed i fyny mo John. Yn 1996 dyma gychwyn ar fenter a sefydlu'i fusnes ei hun fel ymgynghorydd addysg ac am ddeng mlynedd bu hefyd yn Arolygwr Ysgolion gydag Ofsted a hefyd, am flwyddyn neu ddwy, bu'n swyddog datblygu i CYD, mudiad y dysgwyr.
Ar hyn o bryd, hefyd, mae'n gweithio fel 'Life Skills Coach' er mwyn hybu ehangu hyder a chymhelliant ymhlith unigolion a grwpiau, ac o bryd i'w gilydd, fe'i clywch ar Radio Cymru yn siarad a dadlau am bynciau addysgol ac am chwaraeon.
Gwae FA Cymru pan yw John o gwmpas! Ymddeol? Bobl bach, wyr John mo ystyr y gair!
Ymhyfryda yn ei Gymreictod gymaint ag unrhywun ac yn y ffaith ei'
fod yn gallu byw ei fywyd drwy gyfrwng y Gymraeg - ar yr aelwyd ac yn y gymuned yn Wrecsam.
Mae'n ymwelydd cyson â siopau'r dref, nid yn unig i geisio chwilio am fargen ond hefyd i'w hannog i ddefnyddio'r Gymraeg. Mae'n aelod o Gapel Groes ac yn un o gefnogwyr brwd Y Clwb Cerdded ar ddydd Sadwrn lle caiff gyfle i sgwrsio a chael hwyl yn y Gymraeg.
Erbyn hyn, mae ganddo ef ac Eirlys (hithau wedi ymddeol
erbyn hyn) ddau o wyrion bach, sef plant Steffan (a Gail), yr
hynaf o'u dau fab ac yn athro yn ysgol San Christopher (yr hen Ysgol Morgan Llwyd), tra bod Rhys, yr ieuengaf, ym mwynhau bywyd Cymraeg ysgafala Caerdydd, lle mae'n gweithio fel cyfrifydd.
Yn ei amser hamdden felly, prif hoffter John yw chwarae a mynd i nofio gyda'i wyrion neu gerdded y ci o gwmpas Parc Erddig a hefyd
trefnu gwyliau iddo ef ac Eirlys (gwyliau rhad oddi ar y we, chwedl yntau!); hynny yw, pan gaiff amser sbar i wneud hynny!