Cyhoeddodd Rhodri Morgan yn ffurfiol ar 18ed Mehefin 2008 y dyfarnwyd y teitl Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar ein coleg lleol NEWI (North East Wales Institute). Ar hyn o bryd mae'r Coleg yn gweithredu mewn dwy safle, sef Plas Coch a Stryd y Rhaglaw. O fewn amswer fe ddaw cangen arall o'r Brifysgol i fodolaeth o dan y teitl Prifysgol Glyndŵr Sir y Fflint ar safle coleg oddi ar y ffordd A55 yn Llaneurgain.
Bu Wrecsam yn disgwyl am 120 mlynedd am Brifysgol, ers sefydlu Coleg Gwyddoniaeth a Chelf yn 1887.
Parha yr Athro Michael Scott ymlaen fel Pennaeth y Brifysgol, gyda'r Arglwydd Barry Jones yn Gynghellor a Brian Howes yn cadeirio'r Bwrdd Llywodraethol.
Lansiad y brifysgol
Roedd Dydd Gwener 18ed o Orffennaf yn ddiwrnod pwysig yn hanes Wrecsam a Chymru pan gyhoeddwyd bod yr Athrofa wedi cael statws swyddogol o Brifysgol i Gymru yn Wrecsam ac o dan yr enw Prifysgol Glyndŵr ar ôl Tywysog Cymru, Owain Glyndŵr. Roedd Neuadd William Aston yn orlawn yn ystod y seremoni. Y gŵr a gafodd y weledigaeth oedd Michael Scott, Prif Weithredwr yr Athrofa ar y pryd ond sydd yn awr yn Is Ganghellor y Brifysgol. Dywedodd Michael Scott ei fod yn edmygu Owain Glyndŵr am ei ddawn, ei arweinyddiaeth, ei weledigaeth ym mysg addysg a chrefydd yn y cyfnod hwnnw.
|