Erbyn hyn, mae wedi ymweld â'r gwledydd hyn nifer o weithiau a newydd fynd nôl mae e (ganol Ionawr) am gyfnod arall i ddinas Basra, lle bydd o'n ffilmio (dros y 91Èȱ¬) ymhlith y Gatrawd Gymreig yno. Mae'n bosib hefyd eich bod wedi darllen ychydig am ei hanesion anturus yn y cylchgrawn Golwg neu ym mhapurau bro Caernarfon /Gwynedd. Canys yng Nghaernarfon mae Rhys yn byw erbyn hyn, gyda'i deulu, ei wraig Mari sy'n athrawes yn y dref, a'i ddwy ferch Mirain ac Angharad. Ond o Goedpoeth mae Rhys yn enedigol a bu'n ddisgybl yn Ysgol Morgan Llwyd cyn mynd i'r Brifysgol ym Mangor i wneud cwrs Cyfathrebu. Mae ei fam, Gwyneth, hefyd yn hanu o Goedpoeth a bu'n gweithio am gyfnod gyda Banc y Midland a mae'n bosib fod rhai ohonoch yn ei chofio'n gweithio yn Swyddfa'r Eisteddfod Genedlaethol pan fu yn Wrecsam yn y 1970'au. Erbyn hyn mae Gwyneth yn byw ym Mwlch-y-Ffridd ger y Drenewydd. Mae'n amlwg fod Rhys yn cael bywyd cyffrous iawn ac wedi cael profiadau bythgofiadwy tra'n teithio trwy'r gwledydd hyn ac wedi gweld drosto'i hun effeithiau trist ac echrydus rhyfel a hefyd wedi peryglu'i fywyd mae'n siwr i geisio sicrhau ein bod ni'n gallu rhannu rhai o'r profiadau hynny gydag ef drwy'r sgrin deledu. Mae'n disgrifio diwrnod arferol iddo ym Maghdad fel hyn: "clywed bod bom wedi ffrwydro yn Academi'r Heddlu yng nghanol y ddinas, gyda'r canlyniadau arferol - un; wedi'i ladd a phymtheg wedi'u hanafu; y targed tro hwn oedd yr heddlu lleol, wedi'u recriwtio i geisio adfer rhywfaint o drefn yn ôl ar y strydoedd. Y tîm ffilmio'n rhuthro i'r llecyn gan ddarganfod llanast llwyr a thimau o newyddiadurwyr yn ceisio bod yn gyntaf i drosglwyddo'r newyddion yn ôl i'w gwlad! Ie, byw ar bigau'r drain, mewn ofn a pherygl cyson yng nghanol saethu ac ymladd cyson, - dyna fywyd dyn camera teledu ar leoliad. Ar yr un pryd, gobaith pawb yw y bydd pethau'n sefydlogi a phobl yn callio ac yn mynnu heddwch gan ddileu 35 mlynedd o bad legacy,' chwedl yntau. Ein gobaith ni hefyd yw y daw Rhys yn ôl yn ddiogel o'i antur ddiweddaraf ac efallai y cawn ychydig o' i hanes ym Masra yn y rhifynnau i ddod. Pob hwyl iddo a phob lwc.
|