Dathlu'r siarter Mae tref Wrecsam yn dathlu 150 mlynedd ers cael Siarter Brenhinol fel bwrdeistref yn 2007 ac i ddathlu'r achlysur cafodd Ffair Fictoraidd ei chynnal yn y dref ddydd Sadwrn 23ain Mehefin 2007.
[an error occurred while processing this directive]
Roedd pob math o ddigwyddiadau, stondinau ac adloniant Fictoraidd yn cael eu cynnal yn y dref gan gynnwys creu awyrgylch garddwest yn Llwyn Isaf, gyda pherfformiadau o safle'r seindorf drwy'r dydd, pabell luniaeth a gemau Fictoraidd traddodiadol i'r plant chwarae.
Mae mwy o wybodaeth am y dathliadau 150 mlynedd ar wefan Cyngor Bwrdeistref Wrecsam:
. (Nid yw'r 91热爆 yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol).