91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Gwendoline Jones Merch ddawnus
Rhagfyr 2008
Hanes Gwendoline Jones, Clegyrnant ar ei llwyddiannau drwy'r haf gyda'i cheffylau.

"Mae Gwen yn farchogwraig ddawnus lawn ac wedi ennill llond gwlad o rubanau a thlysau am neidio, 'eventing' traws gwlad a hefyd dressage.

Ar ddechrau Awst bu mewn treialon gwladol yn Stonleigh ac enillodd nifer o wobrau gan ddod yn bymthegfed allan o ddosbarth o dros gant, ac yn unfed ar ddeg mewn dosbarth arall.

Yn Sioe Bishop's Castle enillodd nifer o wobrau cyntaf am neidio gan gynnwys 1af am neidio 2'6" yn glir, 1af am neidio 3' `Midland Intermediate horse championship qualifier'.

Mae'n mynd yn aml i Highgrove House yn Craven Arms ac yn llwyddo i gipio niferoedd o rubanau. Mae ganddi ddau geffyl a Paddy ydy enw'r ddau, rydym yn eu hadnabod fel Paddy `The Katapult' a Paddy Clegyrnant sydd yn geflyl du 14 llaw.

Mae'n llwyddo hefyd mewn meysydd eraill. Enillodd Gala nofio Ysgolion Powys, a Gala nofio Maldwyn. Cyn bo hir bydd yn cynrychioli Powys yng Ngala Nofio Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Ar ben hyn i gyd, mae' n chwarae cornet ym Mand Gogledd Powys. Mae'n ddisgybl Blwyddyn 11 yn Ysgol Llanidloes ac yn mwynhau arlunio a chelf."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý