91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
W J Davies yn cyflwyno Maureen Rhys a John Ogwen Noson lenyddol ym Mro Ddyfi
Medi 2007
Nos Lun, 10 Medi roedd Canolfan Owain Glyndŵr yn llawn i'r ymylon i fwynhau noson yng nghwmni Maureen Rhys a John Ogwen.

Croesawyd y ddau gan y Llywydd W. J. Davies, Llanbrynmair. Cyfeiriodd mai eleni oedd yr unfed flwyddyn a deugain o fodolaeth y Cylch Llenyddol.

Cyfeiriodd W. J. hefyd at amryw o'r ffyddloniaid oedd yn anffodus oherwydd anhwylder yn methu â bod yn bresennol, sef Dafydd Wyn Jones, y Llywydd Anrhydeddus, Mair Lynne Davies yr Ysgrifenyddes, Alun Williams, y Trysorydd, a'i briod Nerys. Arfon Jones, Dorothy Davies a John M. Davies, Llanbrynmair.

Dymunwyd adferiad iechyd buan iddynt oll. Cyhoeddodd y Llywydd hefyd y newydd da fod y Parchedig W. J. Edwards wedi cyrraedd yn ddiogel i Batagonia lle y bydd yn gweinidogaethu am gyfnod o rai misoedd.

"Cnoc, Cnoc, Pwy sy 'na?" oedd testun cyflwyniad John Ogwen a Maureen Rhys. A dyna a gafwyd, darluniad byw o gymeriadau gwahanol, yn dechrau gyda Maureen yn sôn am ddywediadau plant, gan gyfeirio at y llyfr Saesneg 'Children's letters to God', ac yn cofio dywediadau ei phlant ei hun, fel Guto yn methu â chysgu a hithau yn dweud wrtho am gyfri defaid, toc dyma Guto'n galw eto "Mam, 'dwi wedi cyfri un cae, oes eisiau i mi gyfri'r cae arall?"

Wedyn y tro hwnnw yr aethant fel teulu ar ymweliad i Baris, a chael cyfle i fynd i ben tŵr Eiffel. Roedd yn ddiwrnod braf a chlir ac eglwysi a'u tyrrau i'w gweld ar y gorwel. "Mam, Mam wyt ti'n gweld y byd i gyd o f'ama, lle mae Bangor?"

Darn o waith Caradog Pritchard `Plentyn wedi Siomi' gafwyd gyntaf gan John Ogwen, a 'Gwarchod y babi'. Yna 'Te yn y Grug' Kate Roberts gan Maureen. Yna John yn adrodd y darn digri 'Gwarchod plant drws nesaf.' Wedyn darn allan o 'Traed mewn Cyffion' Kate Roberts, eto gan Maureen. Tro John oedd hi wedyn i bortreadu Johnny South mewn gornest bocsio yn ddoniol iawn, yna Maureen yn cyflwyno 'Llen Meicro', Annes Glyn.Yna'r ddau yn cyflwyno darn allan o'r 'Tŵr' Gwenlyn Parry, oedd yn wefreiddiol. Diddorol a difyr oedd portread y ddau o Kate Roberts a Saunders Lewis allan o `Annwyl Kate, Annwyl Saunders'. Yna i gloi y noson ar nodyn uchel cyflwynwyd Siwan a Llywelyn allan o ddrama Saunders Lewis 'Siwan'.

Roedd y gynulleidfa wedi cael mwynhad pur, ac yn dotio at ddoniau arbennig y ddau berfformiwr, yn medru creu awyrgylch mor amrywiol mewn eiliad. Diolchwyd yn gynnes iawn iddynt gan W. J. Davies y Llywydd. Paratowyd paned gan Mona Jones a Dorothy Pugh.

Ar nos Lun 8 Hydref edrychir ymlaen am noson yng nghwmni'r Parchedig John Gwilym Jones, Bangor. Roedd y noson yn cael ei noddi gan Gyngor y Celfyddydau a'r Academi Gymreig.


[an error occurred while processing this directive] 0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý