91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Llun o Steve Evans Steve y Dartiwr
Rhagfyr 2007
Mae disgwyl i Steve Evans o Bennal wneud ei ymddangosiad cyntaf ym Mhencampwriaeth Dartiau'r Byd PDC.

Cynhelir y bencampwriaeth ym Mhalas Alexandra, Llundain, ar yr 21ain o Ragfyr, yn erbyn cyn bencampwr y byd, sef Steve Beaton. Mi fydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar 'Sky Sports' am bedwar o'r gloch y prynhawn.

Llys enw Steve yw 'The Outlaw', ac mae yn cysidro cael ei hebrwng i'r llwyfan gydag un o ganeuon 'Adam and the Ants' sef 'Stand and Deliver'.

"Pan ofynnwyd iddo pam ei fod yn defnyddio'r llys enw yma, dywedodd "Rwyf yn edrych ar fy hun fel math o Twm Sion Cati, hynny yw, fy mod yn ceisio dwyn oddi wrth y cyfoethog (y chwaraewyr enwog proffesiynol), a rhoi i'r tlawd - mi fy hun!

"Na, o ddifrif, rwyf yn meddwl fy mod yn gwneud yn eithaf da gyda adnoddau cyfyngedig, ond rwyf wirioneddol angen mwy o nawdd i allu cystadlu ar wastatir gyda'r chwaraewyr gorau ym Mhrydain a'r byd, ac os oes unrhyw un â diddordeb mewn fy noddi am hir amser neu am un gystadleuaeth, buaswn yn falch iawn pe baich yn dod i gysylltiad a mi."

Cyflogir Steve, sydd yn 35 mlwydd oed, fel Pennaeth Garddio ym Mhlas Talgarth lle mae wedi bod yn gweithio ers 1989 ac mae mewn trafodaeth ar hyn o bryd am gefnogaeth ariannol er mwyn ei alluogi i fynd i gystadlaethau tramor sydd yn angenrheidiol iddo allu ennill pwyntiau tuag at wella ei safle yn rhengau'r byd.

Mae gan Steve a'i briod Paula dri mab sydd i gyd yn Ysgol Bro Ddyfi, sef Dewi (14), Sion (13) a Marc (12), ac aeth ymlaen i ddweud "Rwyf yn lwcus iawn bod Marc, fy mab ieuengaf, mor fedrus ac mor frwdfrydig am ddartiau, ac mi hoffwn ddiolch iddo am roi cymaint o ymarfer gwych i mi, a gwneud yn siŵr fy mod ar fy ngorau cyn mynd i gystadlaethau. Hoffwn hefyd ddiolch i Lee Roberts o'r Dyfi Forester am ei gefnogaeth fel fy unig noddwr ar hyn o bryd."

Dros y blynyddoedd mae wedi chwarae dartiau i'r timau lleol canlynol: y Dyfi Foresters a'r Glyndŵr (Machynlleth), Riverside (Pennal), Neptune (Tywyn), a'r Llew Coch (Dinas Mawddwy).

Mae hefyd wedi cynrychioli Machynlleth, Caersws a Fflint ar lefel 'Super League', a siroedd Trefaldwyn, Maesyfed a Chlwyd. Cafodd ei ddewis fel chwaraewr y flwyddyn dros ei sir bedair gwaith, y tro cyntaf yn '1988/89 pan oedd ond yn un ar bymtheg mlwydd oed. Yn 2006 Steve oedd y chwaraewr cyntaf i drechu Raymond Van Barneveld (Barney) ar ôl iddo symud o'r BDO i'r PDC. Mae Barney wedi bod yn bencampwr y byd bedair gwaith gyda'r BDO, cyn iddo hefyd ddod yn bencampwr PDC y byd llynedd.

Roedd hon yn gêm arbennig yn Llundain gyda Barney yn ennill gemau mewn 11, 12 a 14 o ddartiau cyn i Steve ei drechu o bedair gêm i dair mewn 11, 12, 13 a 13 o ddartiau - dyna chi gêm!

Ymysg y chwaraewyr enwog eraill y mae Steve wedi eu curo mae pump o gyn pencampwyr y byd, sef Keith Deller, Ted Hankey (2x), Steve Beaton (2x), a'r ddau Gymro Leighton Rees a Ritchie Bumett. Mae hefyd wedi curo Colin Lloyd, Colin Monk, Terry Jenkins(2x), Shayne Burgess(2x), Ray Carver o'r Unol Daleithiau, a rhan fwyaf o chwaraewyr gorau Cymru dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Pob lwc i ti Steve a gobeithio cawn sawl cyfle i weld fersiwn Bro Ddyfi o Twm Siôn Cati ar y bocs yn y dyfodol!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý