Llongyfarchiadau calonnog i Agnes de Graaf ar ennill Cadair y Dysgwyr Yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri eleni. Dyma hanes Agnes yn ei geiriau ei hun: "Dw i'n dwad o'r Iseldiroedd yn wreiddiol ac wedi byw yng Ngymru ers wyth mlynedd. Dw i'n byw mewn hen gapel yn y wlad efo George ac wedi bod yn dysgu Cymraeg ers dwy flynedd yn Machynlleth. Fy niwtor i ydy Sue Evans, athrawes ardderchog. Dwi'n hoff iawn o dreigliadau!!! Mi ysgrifennes i gerddi o'r blaen yn Isalmaeneg a Saesneg, ond 'Wal' ydy fy ngherdd gyntaf yn Gymraeg: WAL Amser maith yn ôl doedd dim byd yma, dim ond awyr agored, bryniau eang, yr esgair las, y mynyddoedd anghysbell. Yna daeth rhywun i godi'r waliau hyn - carreg ar garreg ar garreg - Pwy ddewisodd y lle? Pwy gasglodd y cerrig? Pwy oedd yn byw yn y tyddyn? Pwy gaeth ei eni acw? Oedden nhw'n cadw gafr, buwch, ieir? Lle aethon nhw i'r capel? Abercegir, Darowen? Gwranda! Be' oedd y swn na? Oedd na ochenaid? Oedd na faban yn crio? Llwyau ar blatiau? Dwr yn rhedeg? Symudes i fy mysedd ar hyd y wal fwsoglyd - Mae bysedd y cwn yn siglo yn y gwynt, mae gwenyn yn sleifio i mewn ac allan o'r blodau. Mae brân yn hedfan yn ddioglyd uwchben, mae hi'n galw - Does neb fan hyn, dim ond madfall sy'n brysio'n ôl i'r cysgod rhwng y cerrig. 'Brân Las'
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |