91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Mim Roberts a bu'n arddangos ei llyfrau lloffion Merched y Wawr Machynlleth
Ionawr 2007
Beth bu aelodau o gangen Merched y Wawr Machynlleth yn ei wneud ar ddiwedd 2006?
Mentrodd rhai o'r gangen i Henllan i gymryd rhan yn y Cwis Cenedlaethol. Er na fu iddynt ennill, rhoesant gyfrif da ohonynt eu hunain.

Ar yr 20fed o Dachwedd, er y tywydd garw, daeth nifer dda i groesawu Mim Roberts, trefnydd Gogledd Orllewin Cymru a Maldwyn o'r mudiad. Wedi ei chyflwyno gan Olga Maiden fe roddodd Mim arddangosfa ddifyr iawn i ni o'i llyfrau lloffion. Dangosodd sut i'w trefnu yn ddeniadol a'u diogelu rhag dirywio- fel bo'r cenedlaethau a ddêl yn gallu eu mwynhau. Yn wir roedd llyfrau lloffion Mim yn drysorau werth eu cadw a'u trysori ac mae'n siŵr iddi fod yn ysgogiad i lawer ohonom. Diolchwyd iddi gan Jane Owen ac i ddilyn cawsom baned gan Ferched y Garth. Enillydd cystadleuaeth llyfr lloffion oedd Sali Richards.

Bu Marilynne Davies a Mary Price yn ddiwyd yn paratoi Plygain Merched y Wawr yng Nghapel y Graig a chafwyd gwasanaeth bendithiol iawn eto eleni gyda phawb yn gwerthfawrogi y talentau arbennig iawn sydd gennym yn Nyffryn Dyfi. Croesawyd pawb gan ein Llywydd, Olga Maiden, gyda Olwen Roberts, Avona Williams ac Ann Owen yn gyfrifol am y rhannau arweiniol a Gwyneth Lloyd a Mair Jones hefyd yn ledio emynau.

Cafwyd dwy rownd ac yn cymryd rhan oedd Rhian Bebb ar y delyn, Dyfinodau, Aled Wyn Davies, Parti Ysgol Glantwymyn, Mair Roberts, Parti Allan o Diwn, Parti Madyn, Alwyn Evans, Ysgol Bro Ddyfi a Chôr Meibion Powys. Traddodwyd y fendith gan y Parch W J Edwards a'r organyddes oedd Delyth Rhys. I ddilyn cafwyd paned a chacennau wedi eu paratoi a'u gweini gan ferched y gangen. Cyflwynwyd siec am £208, sef y casgliad, i Eleri Evans o Feddygfa Glantwymyn tuag at gronfa Cleifion yn y Cartref.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý