91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Côr Gore Glas Côr Gore Glas
Mawrth 2007
Dechrau'r flwyddyn daeth Islwyn Evans o Ysgol Gerdd Ceredigion i Neuadd Glantwymyn i gynnal gweithdy lleisiol gyda Chôr Gore Glas a rhai o aelodau'r aelwyd a'r Ffermwyr Ifanc.

Cafwyd diwrnod hwyliog a buddiol, a dwi'n siŵr bod Magwen wedi cael llawer o syniadau ar gyfer cyngherddau'r dyfodol.

Ar Ionawr 23 buom yn cynnal cyngerdd i gymdeithas Llanegryn yn Neuadd Abergynolwyn. Gydag Aled Wyn Davies yn unawdydd a Gareth Evans, Erw'r Llan yn arwain, cawsom gyngerdd hwyliog a derbyniad cynnes iawn gan y gynulleidfa.

Cafwyd y Cyfarfod Blynyddol ar 13 Chwefror gyda'r arweinydd yn rhoi adroddiad am flwyddyn lwyddiannus arall i'r Côr gyda nifer o gyngherddau da gyda'r uchafbwynt - y trip i Iwerddon.

Roedd adroddiad y trysorydd hefyd yn adlewyrchu sefyllfa lewyrchus.

Etholwyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn nesaf: Cadeirydd: Geraint Jones, Is-gadeirydd: Menna Blake, Ysgrifennydd: Nia Smith, Trysoryddion: Heulwen Williams a Meleri Lewis.

Nos Wener 16 Chwefror aeth criw go dda ohonom i Westy Ty'n Cornel, Talyllyn i gael ein cinio blynyddol.

Os gweloch chi rai digon rhyfedd yr olwg ar hyd y dre, roedd thema i'r cinio eleni, sef gwisg o'r chwedegau (rhai'n cofio'r rheini yn well nag eraill!)

Cafwyd bwyd ardderchog a noson hwyliog gyda Dei yn chwarae caneuon o'r chwedegau a dawnsio egnïol - da iawn Jen ar y Twist!

Cyflwynwyd anrheg arbennig i Magwen i ddiolch iddi am ei gwaith diflino yn ystod y deg mlynedd ers sefydlu'r côr.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý