91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Y dringwyr Y bois ar y brig!
Hydref 2008
Hanes wyth dyn a gododd tail mil o bunnoedd ar ôl dringo Pen y Fan, Cader Idris a'r Wyddfa mewn 12 awr.

Yn ddiweddar llwyddodd wyth o ffrindiau o ardal Machynlleth ac Aberystwyth i godi swm sylweddol o arian at goffrau Ysbyty Bronglais.

Llwyddodd y ffrindiau sef, Gareth Vince, Anthony Rhodes, Alan Murphy, Gethin Thomas, Matthew Davies, Mel Popple, Darren Winterflood a Martyn McGuinness efo cymorth gan David Williams i godi yr arian, trwy gael eu noddi, i ddringo tri copa, sef Pen y fan yn y de (886m), Cader Idris (893m), a'r mwyaf, yr Wyddfa yn y gogledd (1,038m) o uchder.

Roedd hyn yn dipyn o orchest gan iddynt lwyddo i gwblhau'r sialens mewn ychydig llai na 12 awr.

I wneud pethau'n waeth ar y diwrnod bu'n rhaid iddynt oresgyn tywydd difrifol o arw; llifogydd a thirlithriadau wrth ymgymryd â'r sialens.

Bydd yr arian a gasglwyd, trwy haelioni bobl leol, yn mynd tuag at brynu meddalwedd i'r sganydd MRI newydd sydd wedi ei leoli ym Mronglais.

M i hoffai pob un o'r bechgyn ddiolch yn fawr i'r rhai sydd wedi eu noddi ac rwy'n siwr y bydd eu hymdrechion hwythau yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr gan bawb yn y gymuned.

Diolch yn fawr iawn i bawb a fu'n gysylltiedig â'r fenter.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý