Dyma'r criw fu'n cystadlu, ond mae Lowri, Dafydd Bryn, Siôn a Siôn Al ar goll o'r llun (wel, mi oedd hi'n nos Wener welwch chi... noson garu...) Mi gawson ni get-twgethyr bach er mwyn tynnu'r llun yma, a diolch yn fawr i Berwyn yn y Llew Coch am y sosej a chips.
Paratoi ar gyfer cystadlu yn y Sioe Frenhinol fyddwn ni rŵan, ond hefyd mae criw bach ohonom ynghlwm â threfnu noson i ddathlu pen-blwydd CFfI Meirionnydd yn 65 mlwydd oed. Cynhelir cyngerdd ar fferm Dolfach, Llanuwchllyn nos Sadwrn y 18fed o Awst er mwyn dathlu pen-blwydd y mudiad sirol. Bydd cyn-aelodau ac aelodau presennol yn diddanu, a bydd arddangosfeydd o luniau ac yn y blaen o amgylch y lle, a chyfle i bawb hel atgofion dros fwyd a diod. Cadwch eich llygaid yn agored - bydd tocynnau ar werth yn fuan.
Yn ogystal â hynny, hoffwn holi i hen aelodau ac aelodau presennol CFfI Dinas Mawddwy i ddod i'r Neuadd ar nos Fawrth y 3 lain o Orffennaf er mwyn i ni gael hen luniau ac yn y blaen ar gyfer eu harddangos ar noson y cyngerdd. Mae hanes hen a difyr i'r clwb ac os oes gennych chi hen luniau ac yn y blaen byddem yn hynod o ddiolchgar o gael eu benthyg ar gyfer y noson. Dewch draw i'r neuadd felly, nos Fawrth 31ain o Orffennaf am 7.30 y.h.. Dwi'n siŵr bydd na lot o hwyl i'w gael yno yn cyfnewid atgofion!
Mwy o Fachynlleth
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |