91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Plant Ysgol Pennal Gwirioni ar eu maes chwarae newydd
Ionawr 2007
Roedd gwên ar wyneb pawb ym Mhennal yn ddiweddar wrth i'r rhuban gael ei dorri ar gyfnod newydd sbon o hwyl ac addysg yn Ysgol Pennal.

Cafodd y maes chwarae newydd ei ddadorchuddio'n swyddogol i'r disgyblion ac yn ymuno â'r disgyblion yr oedd cyfeillion yr ysgol a fu'n chwarae rhan bwysig yn datblygu maes chwarae'r ysgol yn arbennig ar gyfer plant Pennal.

Roedd y dathliad i agor y maes chwarae yn swyddogol yn cofnodi cwblhau prosiect £4,000 fel rhan o raglen £3 miliwn Supergrounds.

Cafodd Supergrounds ei lansio ym mis Medi 2004 fel rhaglen i wella tir ysgolion dan nawdd NatWest dan reolaeth Learning through Landscapes mewn partneriaeth â Groundwork OK i wneud gwahaniaeth parhaol i amgylcheddau dysgu plant.

Cafodd Supergrounds ei ddatblygu gan NatWest i gryfhau'r cysylltiadau rhwng staff y Banc a'u cymunedau, gyda'r staff yn enwebu ysgolion y mae ganddynt gysylltiad â nhw.

Fe ddaeth Ysgol Pennal yn rhan o'r cynllun trwy enwebiad Bethan Jones, Swyddog Gwasanaethau i Gwsmeriaid NatWest yng nghanghennau Machynlleth a Thywyn ac sy'n rhiant yn yr ysgol.

Dywedodd Bethan Jones: "Fel rhiant rwy'n gwybod cymaint o wahaniaeth y mae maes chwarae fel hyn yn ei wneud i fywydau'r plant ac rwy'n ofnadwy o falch fod y Banc, trwy Supergrounds, wedi gwireddu breuddwyd yr ysgol."

Meddai Mr Emyr John, Pennaeth Ysgol Pennal: "Yn raddol mae ein maes chwarae yn cael ei drawsnewid ac mae'r gwelliannau yn gwneud gwersi ac amser chwarae yn fwy diddorol ac yn golygu bod y plant yn gallu meithrin diddordebau a sgiliau newydd wrth chwarae.

"Rydym yn ddyledus dros ben i NatWest ac yn arbennig i Bethan Jones. Heb ei diddordeb a'i hargymhelliad hi ar y cychwyn cyntaf, a chefnogaeth Supergrounds a 'Learning Through Landscapes' ar ôl hynny, fe fyddai wedi bod yn anodd i ni fynd â'r maen i'r wal.

"Diolch byth, bydd y gwelliannau yn sicrhau bod gennym rywbeth i'w drosglwyddo i ddisgyblion y dyfodol."


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý