91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Adeiladu Neuadd Cwmlline yn 1956 Neuadd Cwmlline
Mehefin 2006
Cwmlline yn dathlu hanner can mlynedd ers adeiladu'r Neuadd, calon gweithgareddau cymdeithasol y fro.

Ar y 3 o Dachwedd 1956 cynhaliwyd Seremoni Agoriad Swyddogol Neuadd Cwmlline. Y mae felly yn hanner cant oed eleni ac ni ddylid gadael i'r flwyddyn basio heb gofio y llafur a'r cyfrannu fu i'w chodi, a'r cyfraniad a wnaeth hithau yn ei thro i fywyd cymdeithasol yr ardal.

Go brin fod unrhyw Neuadd wedi cael cymaint o help gwirfoddol i'w chodi â Neuadd Cwmlline. Bu casglu arian yn flynyddol ar y dechrau, mewn ardal fechan, i alluogi i'r pentref fentro dechrau'r gwaith. Fel yn achos Neuadd Mynytho
"Cyd-ernes yw'r coed arni,
Cyd-ddyheu a'i cododd hi."

Yr oedd y Cwm yn ffodus hefyd bod tri o blant y pentref yn arbenigwyr yn y maes adeiladu. Cofiwn amdanynt heddiw yn nydd y dathlu. Eirig Humphreys y Saer-maen crefftus; Glyn Rees y Saer-coed o fri; ac Evan Francis y Plastrwr proffesiynol.

Yn gweini arnynt yr oedd gweithlu gwirfoddol o ddynion y pentref â'r gaib a rhaw. O sôn am y dynion rhaid peidio anghofio dros y blynyddoedd gyfraniad clodwiw y merched. Y nhw, yn anad neb arall, sydd wedi bod yn gyfrifol am gadw y Neuadd i fynd ac i anadlu bywyd i esgyrn sychion yr adeilad.

Yn y Seremoni Agor cyflwynwyd yr allweddi i Syr George Hamer gan y pensaer Mr Ewart Davies a oedd hefyd yn un o blant y Cwm. Cafwyd hefyd gyfraniadau gan Seindorf Aran Corns ac eitemau gan Iola Jones, D. Pugh Owen, John Breese a William Hughes.

Y noson honno yr oedd y Neuadd newydd yn llawn i wrando ar Gyngerdd gan Gôr Godre'r Aran oedd y pryd hwnnw dan arweiniad Tom Jones. Bwriedir cael cyngerdd eto eleni gan yr un Côr o dan arweiniad Eirian Owen i ddathlu'r hanner can mlwyddiant.

Mae'r Neuadd, dros y blynyddoedd, wedi rhoi bywyd i weithgareddau cymdeithasol y fro - diolch amdani.

Erthgyl gan Dafydd Wyn Jones


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r 91Èȱ¬ yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý