91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Llanbrynmair Sioe Llanbrynmair
Medi 2008
Hanes dathlu 50fed Sioe Llanbrynmair gynhaliwyd fis Awst

Bu dathliadau 50 mlynedd y Sioe yn llwyddiannus iawn er gwaethaf y tywydd a gafwyd yn arwain hyd at Ddydd Llun, Gwyl y Banc 25 o Awst. Dechreuodd y diwrnod braidd yn llwydaidd ond fe wellodd y tywydd a chafwyd amser llawn hwyl gan bawb o bob oed.

Fe ail-drefnwyd y cae i alluogi cael y ceffylau ac roedd yr adran â chefnogaeth dda.

Gwelwyd dychweliad yr adran ddefaid ar ôl y dafod las llynedd a chafwyd lu o ddosbarthiadau.

Fe aeth popeth a drefnwyd ar y cae Ymlaen, a death tyrfa o bobl i gefnogi.

Roedd y Sioe Gwn yn boblogaidd gyda dross 100 yn cystadlu. Cafodd Brenhines y Carnifal ei thywys trwy'r pentref i gae y sioe gan Fand Arian Abergynolwyn gyda'r hen dractorau yn dilyn.

Agorwyd y sioe yn swyddogol gan ddau aelod o bwyllgor y sioe 50 mlynedd yn ôl, sef WJ Davies a Hedd Bleddyn.

Yn ddiddori ar y cae oedd Tîm Bwyell Dyffryn Gwy. Arddangosfa cerflunio gyda llif gadwyn.

Diddorwyd y plant gan Pied Piper y dewin. Bu'r chwaraeon a'r pêl droed pum-bob-ochr yn denu y plant eto eleni. Roedd ambell stondin yn gwerthu ei cynnwys ar y cae.

Gwelwyd stondin gan Ymatebwyr Cyntaf Llanbrynmair yn arddangos eu pac angenrheidiol i fynd allan ar alwad brys.

Maent yn bodoli ers blwyddyn yn awr yn gofalu am anghenion lleol. Bu'r ras gwn yn boblogaidd iawn eto eleni.

Yn dilyn noson y sioe cafwyd noson hwyliog yn y babell gyda rhost twrci blasus ac ocsiwn.

Roedd elw'r noson yn cael ei rhannu rhwng y sioe a'r ffermwyr Ifanc.

Hoffai'r pwyllgor ddiolch i bawb am bob cymorth i alluogi Sioe llwyddiannus eto eleni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý