91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Llun o'r aduniad Aduniad taith Gwlad yr Iâ
Mai 2009
Hanes aduniad o fechgyn ysgolion Machynlleth a'r Drenewydd aeth i Wlad yr Iâ ar antur o wersylla yn 1966.

Ar Sadwrn, Mai 2i1, cynhaliwyd aduniad arbennig o fechgyn ysgolion Uwchradd Machynlleth a'r Drenewydd yng Nghanolfan Gymdeithasol Trefeglwys.

Ym 1966 teithiodd 17 o fechgyn a 4 athro i Wlad yr Iâ ar antur o wersylla ac astudiaethau daearegol, cymdeithasol a bywyd gwyllt dros gyfhod o 3 wythnos.

Hwn oedd y grwp cyntaf o Gymru i ymgymryd a'r fath fenter a bu'n un llwyddiannus iawn. Trefnwyd a chymerwyd gofal am y daith gan John Davies a Hywel Mathews (athrawon Addysg Gorfforol a Daearyddiaeth ym Machynlleth) a Roger Lovegrove a Basil Davies (athrawon Addysg Gorfforol a Chymraeg yn Y Drenewydd).

Trefnwyd yr aduniad eleni gan fod y mwyafrif o'r bechgyn yn dathlu eu penblwydd yn 60 oed yn ystod y flwyddyn hon a bu'r achlysur yn un hapus iawn ac yn gyfle i bawb i ail-fyw hen atgofion ac i ail-gynnau hen gyfeillgarwch.

I goroni'r cyfan roedd pob un o deithwyr 1966 yn bresennol yn yr aduniad, llawer ohonynt wedi teithio o bell er mwyn cael bod yno. Roedd eu sylwadau yn datgan yr argraff fawr a adawodd y daith arnynt, nid yn unig yn addysgiadol and hefyd yn natblygiad eu cymeriad a'u haeddfedrwydd.

Mynegodd nifer ohonynt eu bod yn teimlo'n ddyledus iawn i'w rhieni, y pedwar athro a'r ddau brifathro (Mr Glyn Jones, Machynlleth a Mr Nelson Jones, Y Drenewydd) am eu gweledigaeth a'u menter `nol ym 1966 i ymgymryd a chefnogi gweithgareddau mor anghyffredin ac unigryw.

Rhes Gefn: Dave Corfield; Dave Thorn; Trevor Jarman; Philip Hopkins; John Rowlands; Ian Pierce; David Nobes; Les George; Richard Knight Williams; Gordon Lloyd; Gwyn Fleming.

Rhes Flaen: Hywel Mathews; Murray Owen; Jeff Edwards; Roger Lovegrove; John Davies; John Pugh; Alan Thomas; Peter Jones; Colin Jones; Basil Davies.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý