Cynhaliwyd Gŵyl Ffilmiau am y tro cyntaf ym Machynlleth yn ystod yr Hydref.
Trefnwyd yr ŵyl yn y Tabernacl gan Machfringe er mwyn hybu diddordeb mewn cynhyrchu ffilmiau ym Mro Ddyfi a'r gobaith yw cynnal yr ŵyl yn flynyddol.
Bu'r ŵyl gyntaf yn llwyddiannus iawn a chafodd disgyblion Ysgol Gynradd Machynlleth glôd am eu gwaith yn cynhyrchu eitemau i'r gystadleuaeth ffilm. Yr enillwyr oedd Sophie Hewitt-Smith a Tessa Jones am eu ffilm animeiddio am Dŵr y Cloc. Yn y brif adran dyfarnwyd mai'r gorau oedd y gwaith a gyfarwyddwyd gan John Hedley yn dilyn hanes y broses o gynhyrchu a gosod yr arwydd ar lethrau Penrallt er mwyn hysbysebu'r ŵyl. Roedd yr arwydd wedi
ei gynllunio 'ru'n fath â'r un byd enwog yn Hollywood, ac felly roedd yn hysbyseb addas i ŵyl Ffilmiau Machynlleth.
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |