91Èȱ¬

Explore the 91Èȱ¬
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

91Èȱ¬ 91Èȱ¬page
91Èȱ¬ Cymru
91Èȱ¬ Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

91Èȱ¬ Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Blewyn Glas
Iola Jones yn cyflwyno siec Ysbryd Amser ar grwydr ym Mro Ddyfi
Ionawr 2004
Cynhaliodd Côr Gore Glas noson unigryw o'r enw 'Ysbryd Amser' yn y Tabernacl ar nos Sadwrn 5 Rhagfyr yng nghwmni llu o gyfeillion a pherthnasau.

Y cyngerdd arbennig hwn oedd penllanw blwyddyn o waith datblygu a weithredwyd gan y côr yn ystod 2003. Diolch i gynlluniau trefnus y Cadeirydd Alun Jones, llwyddwyd i dderbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer cyfres o ddatblygiadau y bu'r côr yn ffodus i elwa ohono. Roedd y nawdd yn cynnwys gweithdy eisiol gan Islwyn Evans a gwisgoedd newydd yn ogystal â chomisiynu pedwar cyfansoddiad unigryw yn arbennig ar gyfer y côr.

Manteisiodd y côr ar y cyfle i wahodd ieuenctid yr ardal a gipiodd wobrau yn y gwyliau a'r eisteddfodau cenedlaethol i ymuno â nhw er mwyn i drigolion Bro Ddyfi fwynhau eu perfformiadau llwyddiannus unwaith eto. Agorwyd y noson gan gôr cymysg CFfI Bro Ddyfi a fu'n fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol y Ffermwyr Ifanc yn ddiweddar dan arweiniad Magwen Pughe. Wedyn daeth parti cerdd dant Ysgol Glantwymyn i ddiddanu'r gynulleidfa gyda'r darn a gipiodd wobr iddynt yn yr ŵyl Gerdd Dant yn Aberystwyth y mis diwethaf.

Cyfle yr unigolion oedd hi yn dilyn hynny a chafwyd perfformiadau efaru, canu gwerin, canu clasurol ac offerynnol ardderchog gan Louise Harding, Aneira Evans, Gwawr Jones a Meilyr Jones - y pedwar wedi ennill gwobrau yn Eisteddfod Genedlaethol Meifod ac Aneira wedi llwyddo yn yr ŵyl Gerdd Dant a Meilyr yn Eisteddfod Genedlaethol y CFfI hefyd.

Daeth 'Lleisiau Hyddgen' i'r llwyfan i gyflwyno'r darn a enillodd y wobr gyntaf iddynt ym Meifod a hawdd oedd gwerthfawrogi pam mai nhw aeth â hi gyda'u perfformiad grymus ac amserol dan hyfforddiant Ann Fychan. Cafodd y gynulleidfa wledd o ddiddanwch gan Meinir Jones, Cemaes yn llefaru'r darn digri a ddaeth â'r ail wobr iddi ym Meifod a hawdd oedd adnabod stamp ffraethineb awdur y geiriau, lola Jones, Aberhosan arno.

Gwraig wadd y noson oedd Llio Penri James, athrawes gerdd Ysgol Bro Ddyfi, a chafwyd anerchiad naturiol, hwyliog a phwrpasol ganddi cyn cloi hanner cyntaf y noson gyda pherfformiadau cerdd dant o'r safon uchaf gan gôr yr ysgol - darnau a yrrodd ias i lawr gefn sawl aelod o'r gynulleidfa. Braint oedd cael mwynhau dyfnder o dalent ieuenctid Bro Ddyfi yn yr hanner cyntaf.

Yn yr ail hanner cafwyd tipyn o amrywiaeth wrth i Gôr Gore Glas berfformio'r pedwar darn comisiwn newydd. Comisiynwyd beirdd lleol i gyfansoddi pedwar darn ar y thema 'Ysbryd Amser' yn ystod y gwanwyn eleni - y beirdd hynny oedd Dafydd Wyn Jones, Gwynn ap Gwilym ac Ann Fychan. Gwelsom bytiau ffilm o'r beirdd yn esbonio pa ysbrydoliaeth a gawsant i gyfansoddi'r cerddi ac yna bu Meinir Wyn, arweinyddes y noson, yn darllen sylwadau'r cyfansoddwyr cerddorol. Clywsom eiriau Eric Jones, Gareth Glyn, Robat Arwyn a Delyth Rees gan rhoi darlun dadlennol i'r gynulleidfa o'r ffordd y gweithiodd pob un mewn ffordd wahanol i greu darn creadigol unigryw. Perfformiodd y côr y darnau 'Maldwyn - Dal dy dir', 'Ffair Machynlleth', 'Dawns Amser' a 'Dringaf y Mynydd' a derbyn cymeradwyaeth wresog iawn gan y gynulleidfa.

Roedd gan bawb farn wahanol ynglŷn a pha un o'r caneuon oedd eu ffefryn (gan gynnwys aelodau'r côr) - arwydd calonogol fad y gwaith cyfansawdd 'Ysbryd Amser' yn apelio at bob oed a chwaeth. Bydd y darnau newydd yn dod yn rhan o raglen gerddorol y côr o hyn ymlaen felly bydd cyfle eto i'w mwynhau drosodd a throsodd!

Diolch i bawb a weithiodd yn ddiflino i sicrhau fod y noson yn llwyddiannus ac i'r holl berfformwyr a roddodd eu gwasanaeth am ddim gan sicrhau bod y côr yn medru trosglwyddo £1,000 i elusen Bobath Caerdydd, yr achos da a ddewiswyd i dderbyn elw'r noson. Cyflwynodd Iola Jones siec i Ganolfan Bobath ar ran y côr o fewn dyddiau i'r cyngerdd. Bydd y côr yn cael toriad dros y Nadolig ac yn ail ddechrau'r ymarferion ar nos Fawrth 6 Ionawr, ac mae'n siŵr bydd gan Magwen gân neu ddwy newydd i'w dysgu bryd hynny!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
91Èȱ¬ - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the 91Èȱ¬ | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý