Ar 19 Ebrill, bydd Annie o Waun Cwm Calch, Talerddig, yn cychwyn ar daith feicio noddedig trwy Tibet a Nepal, i godi arian at ymchwil canser.
Cafodd Roy, gŵr Annie, ei ddiagnosio a chanser llynedd felly mae Annie yn gobeithio codi gymaint o arian a phosib ar gyfer yr elusen.
Mae Annie yn talu am y daith ei hun, felly bydd pob cyfraniad yn mynd yn syth i'r elusen.
Dywedodd Annie, "Er fy mod yn edrych ymlaen at y sialens rwyf hefyd braidd yn nerfus! Dwi'n gobeithio medru ei gwblhau. Yr uchder yw fy mhryder pennaf, ond dwi'n siwr byddaf yn iawn."
![](/staticarchive/5ea3e7590d674d9be4582cc6f6c8e86070157686.gif) |