Oes Elisabeth, 1558-1603
Llywodraeth Elisabeth
Roedd Elisabeth I yn wynebu nifer o sialensiau wrth lywodraethu’r wlad. Roedd angen iddi ddangos cryfder ac arweinyddiaeth, ond roedd angen iddi gael dynion pwerus i’w chefnogi hefyd. Pa mor lwyddiannus oedd llywodraeth Elisabeth I?
Ffyrdd o fyw’r tlawd a’r cyfoethog
Er bod cyfoeth rhai pobl wedi cynyddu yn ystod oes Elisabeth, roedd bywyd i’r mwyafrif yn anodd iawn. Cynyddodd tlodi a diweithdra yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Beth oedd y gwahaniaethau rhwng bywydau’r tlawd a’r cyfoethog yn ystod oes Elisabeth?
Adloniant poblogaidd
Roedd bywyd yn anodd i’r mwyafrif o bobl yn ystod oes Elisabeth. Roedd adloniant poblogaidd felly yn ffordd bwysig o ddianc rhag caledi bywyd. Beth oedd y mathau mwyaf poblogaidd o adloniant yn ystod oes Elisabeth?
Crefydd yn oes Elisabeth
Roedd crefydd yn hollti barn pobl yng Nghymru a Lloegr wrth i syniadau Protestannaidd herio goruchafiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Cynigiodd Elisabeth ‘ffordd ganol’ fel cyfaddawd. Pa mor llwyddiannus oedd Elisabeth wrth ddelio â phroblem crefydd?
Catholigaeth yn oes Elisabeth
Er gwaetha’r ffaith i’r 'ffordd ganol' gael ei derbyn i ddechrau, cynyddodd y bygythiad Catholig o ddiwedd y 1560au. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ddienyddio Mari, Brenhines y Sgotiaid a rhyfel gyda Sbaen. Pam roedd y Catholigion yn fygythiad i Elisabeth?
Armada Sbaen
Yn 1558, roedd Cymru, Lloegr a Sbaen yn gyfeillion. Fodd bynnag, dirywiodd y berthynas yn ystod y 30 mlynedd nesaf, gan arwain at ymgais gan y Sbaenwyr i orchfygu Lloegr. Faint o fygythiad oedd Armada Sbaen?
Piwritaniaeth yn oes Elisabeth
Daeth Ardrefniant Crefyddol 1559 â sefydlogrwydd i Gymru a Lloegr. Serch hynny, roedd rhai Protestaniaid eithafol o’r enw Piwritaniaid eisiau mwy o newid a daeth hynny’n her i Elisabeth. Pam wnaeth y Piwritaniaid ddod yn fygythiad cynyddol yn ystod teyrnasiad Elisabeth?
Dirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951
Dechreuad y Dirwasgiad
Roedd Cwymp Wall Street yn 1929 wedi plymio America i ddirwasgiad economaidd a arweiniodd at ddirwasgiad Mawr y 1930au. Beth oedd prif achosion y Dirwasgiad?
Bywyd yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad
Roedd y dirwasgiad yn gyfnod cythryblus i gymaint o deuluoedd ym Mhrydain ac roedden nhw’n wynebu nifer o heriau. Ond, yn rhyfeddol, roedd rhai ardaloedd wedi ffynnu yn ystod y 1930au. Sut oedd pobl yn gallu ymdopi â’r heriau yn ystod blynyddoedd y Dirwasgiad?
Dechreuad y rhyfel
Mae polisi tramor ymosodol Hitler a pholisi dyhuddo (policy of appeasement) enwog Prydain yn rhai o achosion yr Ail Ryfel Byd. Roedd Prydain yn defnyddio amryw ddulliau i baratoi ar gyfer gwrthdaro mawr. Pa mor effeithiol oedd paratoadau Prydain ar gyfer rhyfel?
Bywyd amser rhyfel
Ar ôl i’r rhyfel ddechrau ym Medi 1939, roedd bywyd ar fin newid yn sylweddol i Brydain, ei lluoedd arfog a’i dinasyddion. Sut wnaeth pobl Prydain ymdopi â’r profiad o ryfel?
Cynnal yr ysbryd
Roedd cynnal yr ysbryd yn her fawr i Lywodraeth Prydain. Heb gynnal yr ysbryd a gobaith efallai na fyddai buddugoliaeth wedi bod yn bosibl, yn arbennig o gofio bod angen sifiliaid i helpu gyda’r ymgyrch ryfel. Pa mor bwysig oedd cynnal ysbryd pobl yn ystod y rhyfel?
Bywyd ar ôl rhyfel
Roedd 1945 yn foment allweddol yn hanes Prydain. Effeithiodd yr Ail Ryfel Byd yn uniongyrchol ar newidiadau economaidd a gwleidyddol. Pa mor anodd oedd yr amgylchiadau ym Mhrydain yn 1945?
Ailadeiladu'r wlad ar ôl 1945
Roedd y Llywodraeth Lafur ar ôl y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai’n gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio â phroblemau’r oes?
UDA: Gwlad gwahaniaethau, 1910-1929
Trosolwg UDA: Gwlad gwahaniaethau
Wynebodd America sawl her rhwng 1910 a 1929. Daeth mewnfudo’n broblem fawr i gymdeithas, arweiniodd problemau economaidd at y Dirwasgiad Mawr a datblygodd diwylliant America yn sylweddol.
Mewnfudo
Wynebodd cymdeithas America newidiadau mawr yn y 1910au pan roedd mewnfudo ar ei hanterth. Roedd dros 40 miliwn o bobl wedi cyrraedd erbyn 1919 felly arweiniodd hyn at gyfyngu y Drws Agored.
Crefydd a hil
Daeth rhyddid crefyddol i America ym 1791, pan ddaeth Gwelliant 1af y Cyfansoddiad i fodolaeth. Dywedai hwn nad oedd gan un eglwys yr hawl i dra-arglwyddiaethu ar America.
Trosedd a llygredd
Roedd trosedd a llygredd ar eu hanterth yn y 1920au yn sgil y Gwaharddiad, troseddu cyfundrefnol a llywodraeth lwgr Warren Harding.
Ffyniant economaidd
Roedd economi America yn llewyrchus yn y 1920au. Polisi laissez-faire oedd gan yr Arlywyddion Gweriniaethol ond ni wnaeth pawb elwa o'r ffyniant.
Diwedd ffyniant
Daeth ffyniant y 1920au i ben yn sgîl Cwymp Wall Street yn 1929. Dyma ddechrau Dirwasgiad Mawr y 1930au.
Adloniant poblogaidd
Bu cyfnod o newid mawr yn niwylliant a chymdeithas America rhwng 1910 a 1929 yn bennaf oherwydd poblogrwydd y sinema, ffilmiau di-sain, talkies ac effaith cerddoriaeth jazz.
Rôl menywod
Newidiodd agweddau tuag at fenywod a thuag at foesau cymdeithasol yn arthurol. Cynyddodd y nifer o fenywod yn y gweithle yn ystod y 1920au a thrawsnewidiodd ffasiwn ac ymddygiad ymysg merched ifanc.
Yr Almaen mewn cyfnod o newid, 1919-1939
Trosolwg Yr Almaen mewn cyfnod o newid
Themâu a materion yn ymwneud â hanes yr Almaen yn y cyfnod 1919-1939.
Effaith y Rhyfel Byd Cyntaf
O ganlyniad i golli’r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd llywodraeth newydd yr Almaen, Gweriniaeth Weimar, yn wynebu cyfres o heriau economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a rhyngwladol. Pa sialensiau wnaeth wynebu Gweriniaeth Weimar rhwng 1919 a 1923?
Adferiad Weimar
Rhwng 1923 a 1929, profwyd oes aur yn yr Almaen o dan Weriniaeth Weimar. Helpodd y gwleidydd blaenllaw, Gustav Stresemann, i sicrhau benthyciadau o America i adfer yr economi, a chytundebau rhyngwladol i helpu i ail-adeiladu lle’r Almaen ymhlith prif genhedloedd y byd. Pam cafodd blynyddoedd Stresemann eu hystyried yn oes aur?
Diwedd Gweriniaeth Weimar
Arweiniodd Cwymp Wall Street a’r ffaith bod America wedi tynnu arian yn ôl, at ddirwasgiad economaidd difrifol yn yr Almaen. Erbyn 1932, roedd 6 miliwn o Almaenwyr yn ddi-waith a dechreuodd y system wleidyddol ddadfeilio wrth i nifer o Almaenwyr cyffredin droi at bleidiau eithafol. Sut a pham gwnaeth Gweriniaeth Weimar ddymchwel rhwng 1929 a 1933?
Atgyfnerthu grym
Ym mis Ionawr 1933, doedd dim disgwyl i Hitler oroesi’n hir fel Canghellor wrth iddo arwain llywodraeth glymblaid gyda dim ond dau o Natsïaid eraill yn y cabinet. Serch hynny, dim ond 18 mis yn ddiweddarach, fe wnaeth ddatgan ei hun yn unben a Führer yr Almaen. Sut gwnaeth y Natsïaid atgyfnerthu eu grym rhwng 1933 a 1934?
Polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid
Roedd Hitler wedi amlinellu ei syniadau yn Mein Kampf. O 1933 ymlaen, roedd gweithredu'r syniadau hyn yn effeithio ar sawl agwedd ar fywyd yr Almaen. Sut gwnaeth polisi economaidd, cymdeithasol a hiliol y Natsïaid effeithio ar fywyd yn yr Almaen?
Arswyd a pherswâd
Gorfodwyd credoau Natsïaidd ar boblogaeth yr Almaen drwy ddefnyddio cyfuniad o ddulliau cyflyru a braw. Roedd y peiriant propaganda dan arweiniad Joseph Goebbels yn annog pobl i dderbyn credoau, syniadau a gwerthoedd y Natsïaid. Pa ddulliau wnaeth y Natsïaid eu defnyddio i reoli'r Almaen?
Polisi tramor Hitler
Pa ffactorau wnaeth arwain at ddechreuad y rhyfel yn 1939?
Newidiadau ym maes trosedd a chosb, tua 1500 hyd heddiw
Achosion trosedd
Mae yna nifer o resymau pam fod pobl yn troseddu. Mae rhai o’r achosion yma wedi bodoli erioed, megis trachwant, tlodi a chaledi economaidd. Mae achosion trosedd eraill wedi newid ers 1500. Beth oedd prif achosion trosedd dros amser?
Natur troseddau
Mae rhai troseddau wedi bodoli erioed ac mae eraill yn perthyn i gyfnodau penodol mewn hanes. Sut mae natur gweithgaredd troseddol wedi bod yn wahanol ac wedi newid dros amser?
Gorfodi cyfraith a threfn
Cyn y 19eg ganrif nid oedd yna heddluoedd oedd yn cael eu cyllido gan y wladwriaeth. Yn yr oes fodern, mae gennym heddluoedd ym mhob rhan o’r wlad. Sut mae’r cyfrifoldeb yma am orfodi cyfraith a threfn wedi newid gydag amser?
Dulliau o ymladd trosedd
Mae dulliau o ymladd trosedd wedi newid gydag amser ac mae rhai ohonyn nhw’n fwy effeithiol nag eraill. Mae’r dulliau hynny wedi newid a'u haddasu wrth ymateb i droseddu a chyfraddau troseddu. Pa mor effeithiol mae dulliau o ymladd trosedd wedi bod dros amser?
Agweddau tuag at gosbi
Mae agweddau tuag at gosbi wedi newid wrth i amser fynd yn ei flaen. Mae’r hyn oedd y dderbyniol fel math o gosb mewn cyfnodau cynharach erbyn hyn yn cael eu hystyried yn aml yn greulon neu lym. Pam mae agweddau at gosbi wedi newid dros amser?
Dulliau cosbi
Roedd y dulliau cosbi a ddefnyddiwyd yn oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid yn seiliedig ar gosb eithaf a chosb gorfforol gyhoeddus. Gydag amser mae’r ffocws wedi newid, a charcharu yw ein prif ddull o gosbi erbyn heddiw. Sut mae dulliau cosbi wedi newid dros amser?
Newidiadau ym maes iechyd a meddygaeth, tua 1340 hyd heddiw
Ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydau
Mae ymdrechion i drin a gwella afiechydon a chlefydau wedi newid o ganlyniad i welliannau mewn gwybodaeth feddygol. Mae triniaethau wedi dod yn gynyddol lwyddiannus. Sut mae ymdrechion i drin afiechydon a chlefydau wedi newid dros y blynyddoedd?
Datblygiadau ym maes gwybodaeth feddygol
Mae gwybodaeth feddygol wedi datblygu dros y blynyddoedd ac wedi arwain at ddatblygiadau o ran trin afiechydon a chlefydau. Faint o ddatblygiad sydd wedi bod mewn gwybodaeth feddygol dros y canrifoedd?
Datblygiadau yng ngofal cleifion
Mae gofal cleifion wedi datblygu ac wedi arwain at welliannau o ran trin afiechydon a chlefydau. Ym mha ffordd mae gofal cleifion wedi gwella dros y blynyddoedd?
Datblygiadau yn iechyd a lles y cyhoedd
Mae iechyd a lles y cyhoedd wedi datblygu dros y canrifoedd ac mae hynny wedi arwain at welliannau mewn iechyd a disgwyliad oes. Pa mor effeithiol oedd ymdrechion i wella iechyd a lles y cyhoedd dros y blynyddoedd?
Datblygiad rhyfela, tua 1250 hyd heddiw
Datblygiad rhyfela - trosolwg
Mae rhyfela wedi newid yn ddramatig ers y 13eg ganrif. Pam roedd pobl a gwledydd yn mynd i ryfel yn ystod y cyfnod hwn a sut roedden nhw’n ymladd?
Newidiadau ym mhatrymau mudo, tua 1500 hyd heddiw
Newidiadau ym mhatrymau mudo - trosolwg
Mae mudo i mewn ac allan o Brydain wedi digwydd gydol hanes. Mae gadael un wlad i fynd i un arall neu symud rhwng gwahanol rannau o wlad yn dod â heriau, cyfleoedd a newidiadau yn eu sgil.