91热爆

Diwydiant Prydain yn y 1920au

Yn y 19eg ganrif roedd Prydain yn arwain y byd yn ddiwydiannol. Erbyn diwedd y ganrif roedd Yr Almaen, Ffrainc, Japan ac America wedi dal i fyny, ac erbyn dechrau鈥檙 20fed ganrif roedden nhw鈥檔 dechrau dal i fyny a herio safle diwydiannol blaenllaw Prydain.

Roedden nhw鈥檔 defnyddio dulliau cynhyrchu newydd ac yn cystadlu am farchnadoedd rhyngwladol. Roedd diwydiannau glo, haearn, adeiladu llongau a thecstilau Prydain yn dibynnu鈥檔 fawr ar werthu i farchnadoedd byd-eang. Roedd y gystadleuaeth gynyddol o wledydd eraill yn golygu nad oedd y 1920au yn gyfnod cyfforddus i ddiwydiant trwm Prydain. Golygai hyn fod gan Brydain broblemau economaidd cyn Cwymp Wall Street.

Cwymp Wall Street, 24 Hydref 1929

Achosodd Cwymp Wall Street 1929 bryder enfawr i Arlywydd America, Herbert Hoover, ac arweiniodd at gyfnod dramatig a elwir yn Ddirwasgiad Mawr.

Pobl a cheir yn llenwi Wall Street, Efrog Newydd ar 24 Hydref 1929, a elwir yn Ddydd Iau Du.
Image caption,
Pobl yn ymgasglu ar Wall Street ar 鈥楧dydd Iau Du鈥, 24 Hydref 1929

Sut arweiniodd hynny at Ddirwasgiad ym Mhrydain?

Cafodd Dirwasgiad America effaith sylweddol ar economi鈥檙 DU. Achosodd polis茂au economaidd America i nifer o wledydd eraill, yn cynnwys Prydain a鈥檙 Almaen, lithro i ddirwasgiad economaidd.

Herbert Hoover gyda Marie Curie
Figure caption,
Herbert Hoover (yn y llun gyda Marie Curie)

Defnyddiodd Arlywydd Hoover dariffau uchel er mwyn ceisio atal pobl America rhag prynu nwyddau o wledydd eraill. Roedd y tariffau yma yn golygu bod nwyddau na chynhyrchwyd yn America yn ddrytach, ac arweiniodd hynny at ostyngiad mewn galw ac elw. Aeth busnesau i鈥檙 wal wrth i bobl stopio prynu nwyddau a dechreuodd y Dirwasgiad Mawr, gan achosi diweithdra uchel.

Mae鈥檔 ymddangos bod yr ymadrodd Pan fo America yn tisian, mae gweddill y byd yn dal annwyd yn un cywir.

Prif ysgogydd y Dirwasgiad oedd Cwymp Wall Street, ond roedd ffactorau eraill hefyd wedi cyfrannu at droi鈥檙 Cwymp yn Ddirwasgiad. Doedd yr UDA ddim yn gallu rhoi benthyg arian i wledydd Ewrop mwyach a gofynnon nhw am rai o鈥檙 benthyciadau yn 么l.

Efallai y dylid ei alw鈥檔 gatalydd oherwydd ei fod wedi cyflymu effaith achosion eraill a chyflymu鈥檙 cwymp economaidd.

Arweiniodd hynny at gwymp cwmn茂au, yn arbennig o gofio bod y diwydiannau trwm yn benodol wedi bod mewn trafferthion ers 1918. Roedd cau cwmn茂au neu leihau gweithluoedd yn arwain at ddiweithdra difrifol.