O鈥檙 Rhyfel Ffug i ryfel diarbed
Am chwe mis cyntaf y rhyfel, ychydig iawn o ymladd oedd yn y Gorllewin, oherwydd bod byddin yr Almaen yn canolbwyntio ar oresgyn Gwlad Pwyl. Yn aml gelwir y cyfnod yma yn 鈥楻hyfel Ffug鈥.
Yn Ebrill 1940, ymosododd byddin yr Almaen ar Norwy a Denmarc gan ddefnyddio BlitzkriegRhyfel mellt - ymosodiad milwrol a ddefnyddiwyd gan fyddin yr Almaen yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd yn defnyddio cyfuniad o gyflymder, ymosodiadau annisgwyl o鈥檙 awyr, a lluoedd tir llethol er mwyn dinistrio'r gelyn.. Nid oedd y lluoedd Prydeinig, a anfonwyd i gynorthwyo, yn gallu dal lluoedd yr Almaen yn 么l, a oedd yn parhau i wthio tua鈥檙 de yn yr Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc.
Roedd tacteg yr Almaen o ddefnyddio Blitzkrieg, sef grym o鈥檙 awyr, tanciau arfog a chyfuniad o rym mawr, cyflymder a鈥檙 annisgwyl yn eithriadol o anodd i amddiffyn yn ei erbyn.
Ym Mai 1940, yn wynebu methiant y broses dyhuddo a beirniadaeth gynyddol, ymddiswyddodd Neville Chamberlain fel Prif Weinidog. Winston Churchill wnaeth arwain llywodraeth glymbleidiol am weddill y rhyfel.
Roedd y misoedd dilynol yn gyfnod anodd wrth i鈥檙 Iseldiroedd, Gwlad Belg a Ffrainc gael eu goresgyn gan y Nats茂aid.
Roedd ymgiliad lluoedd Prydain o Dunkirk ar ddiwedd Mai 1940 yn dangos cryfder peiriant rhyfel y Nats茂aid. Roedd y ffaith bod cymaint wedi cael eu hachub er mwyn gallu ymladd eto yn golygu er eu bod wedi colli鈥檙 frwydr, roedd mewn gwirionedd yn fuddugoliaeth bwysig.
Ildiodd Ffrainc ar 22 Mehefin 1940. Yna trodd Hitler ei sylw at oresgyn Prydain a oedd yn ymladd yn erbyn Yr Almaen ar ei phen ei hun bellach.
Gorffennaf i Hydref 1940
Digwyddodd Brwydr Prydain yn yr awyr wrth i Hitler geisio ennill goruchafiaeth yn yr awyr cyn lansio ei ymgyrch i oresgyn y wlad. Llwyddodd yr Awyrlu Brenhinol (Royal Air Force, RAF) i ddal y LuftwaffeAwyrlu鈥檙 Almaen. yn 么l oherwydd ei ddefnydd o radar, gwell awyrennau ac, yn ffodus, ambell gamgymeriad gan yr Almaenwyr. Cafodd y peilotiaid eu canmol gan Churchill yn Awst 1940 gan ddweud, Never in the field of human conflict has so much been owed to so many by so few.
Medi 1940
Newidiodd y Luftwaffe ei gynllun gan ddechrau bomio dinasoedd Prydain, a Llundain yn arbennig. Galwyd hynny yn Blitz, o鈥檙 gair Almaeneg Blitzkrieg, a鈥檌 nod oedd torri ysbryd a chwalu diwydiant er mwyn gorfodi Prydain i ildio. Erbyn hydref 1940 roedd yn amlwg y byddai鈥檙 rhyfel yn effeithio ar bawb, nid dim ond y rhai a oedd yn ymladd. Dyma oedd 鈥榬hyfel diarbed鈥.