Diweithdra
Un o effeithiau pennaf y Dirwasgiad oedd y cynnydd sylweddol mewn diweithdra ym Mhrydain. Cododd i 2.5 miliwn yn 1933. Roedd hynny yn 25 y cant o鈥檙 gweithlu. Ardaloedd diwydiant trwm yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban, Cymru a gogledd Lloegr a ddioddefodd waethaf. Diwydiannau megis:
- glo
- haearn
- dur
- adeiladu llongau
Roedd y diwydiannau hynny eisoes mewn trafferthion oherwydd nad oedden nhw wedi moderneiddio ar 么l y rhyfel, ac effeithiwyd yn ddrwg arnyn nhw gan gystadleuaeth o wledydd eraill. Yn anffodus chwalodd y diwydiannau hyn.
Er enghraifft, pan gaeodd Gwmni Iard Longau Palmers yn Jarrow yng ngogledd ddwyrain Lloegr, cododd cyfradd ddiweithdra鈥檙 dref i 80 y cant a dywedir bod tref Jarrow i bob pwrpas wedi 鈥榤arw鈥. Cododd diweithdra o 3,245 yn 1929 i 7,178 yn 1933.
Roedd y rhan fwyaf o bobl yn Jarrow naill ai wedi鈥檜 cyflogi gan Gwmni Iard Longau Palmers neu鈥檔 dibynnu arni am eu bywoliaeth. Dechreuodd yr iard ddirywio ar 么l y Rhyfel Byd Cyntaf ond erbyn dechrau鈥檙 1930, roedd yr iard yn rhy fach o lawer i adeiladu llongau modern y cyfnod.
Cylch dieflig 鈥 effaith diweithdra
Nid oedd y 2.5 miliwn oedd yn ddi-waith yn cael cyflog a doedden nhw ddim yn gallu prynu pethau. Effeithiodd hynny ar y galw am nwyddau a gynhyrchwyd ym Mhrydain, ac aeth mwy o fusnesau i鈥檙 wal, ac arweiniodd hynny at fwy o ddiweithdra.
Ni helpwyd y broblem gan y ffaith nad oedd y budd-dal diweithdra (y d么l) yn ddigon i dalu am gostau sylfaenol megis bwyd a dillad.