Adroddiad Beveridge
Yn 1941, fe wnaeth Llywodraeth Glymblaid y rhyfel sefydlu Comisiwn Brenhinol dan ofal y gwleidydd Rhyddfrydol, Syr William Beveridge, i ddarganfod pa fath o Brydain yr oedd pobl eisiau ei gweld ar 么l y rhyfel.
Enw swyddogol yr adroddiad, a chafodd ei gyhoeddi yn 1942, oedd Social Insurance and Allied Services, ac roedd yn cynnwys cynlluniau i wella Prydain ar 么l i鈥檙 rhyfel ddod i ben.
O ganlyniad i鈥檞 ymchwil, datganodd bod yna bum cawr ar y ffordd i ailadeiladu
, sef:
- angen 鈥 incwm digonol i bawb
- afiechyd 鈥 mynediad i ofal iechyd
- anwybodaeth 鈥 addysg dda
- aflendid 鈥 tai digonol
- segurdod 鈥 cyflogaeth enillol
Er mwyn gwella Prydain a thaclo鈥檙 pump 鈥榗awr drwg鈥 yma, cynigiodd sefydlu gwladwriaeth les.
Pam fod cymaint o wleidyddion a phobl yn dymuno sefydlu gwladwriaeth les?
Roedd pobl wedi aberthu cymaint yn ystod yr Ail Ryfel Byd, roedden nhw鈥檔 credu eu bod wedi ymladd i gael gwell dyfodol a鈥檜 bod yn haeddu hynny oherwydd eu cyfraniad i鈥檙 rhyfel. Roedd nifer yn credu mewn cymdeithas decach gyda:
- gofal meddygol am ddim
- pensiwn henoed
- tai fforddiadwy
Y syniad oedd i gynnig rhwyd ddiogelwch i bobl o鈥檙 crud i鈥檙 bedd
. Roedd yn un o bolis茂au allweddol y Blaid Lafur 鈥 fel yr addawyd hynny yn ymgyrch etholiadol 1945.