91热爆

Ailadeiladu'r wlad ar 么l 1945Gwladoli鈥檙 diwydiannau allweddol

Roedd y Llywodraeth Lafur ar 么l y rhyfel yn 1945 yn benderfynol o gyflwyno newidiadau allweddol fyddai鈥檔 gwella bywydau pobl a sefydlu wladwriaeth les. Sut wnaeth y Llywodraeth Lafur ddelio 芒 phroblemau鈥檙 oes?

Part of HanesDirwasgiad, rhyfel ac adferiad, 1930-1951

Gwladoli鈥檙 diwydiannau allweddol

Gwladoli oedd syniad y Blaid Lafur o roi rheolaeth am y prif ddiwydiannau yn nwylo鈥檙 bobl yn hytrach na gr诺p bychan o randdeiliaid.

Dau ddyn, un yn gwisgo helmed gl枚wr, yn edrych ar boster 芒鈥檙 geiriau; This colliery is now managed by the National Coal Board on behalf of the people .
Image caption,
Gwladoli鈥檙 diwydiant glo, Ionawr 1947

Roedd hyn yn apelio i gymaint o weithwyr oedd yn teimlo bod gan y perchnogion blaenorol, megis perchnogion glofeydd, fwy o ddiddordeb mewn elw na buddiannau eu gweithwyr. Cafodd 850 o berchnogion pyllau glo iawndal o 拢164 miliwn rhyngddyn nhw ac ar draws pob diwydiant talwyd iawndal o 拢2,700 miliwn.

Rhesymau Llafur dros wladoli oedd:

  • cynyddu effeithlonrwydd yn y diwydiannau allweddol a helpu eu moderneiddio
  • gostwng prisiau a chreu mwy o swyddi
  • gwella statws gweithwyr a gwella amodau gwaith
  • rhoi blaenoriaeth i weithwyr a defnyddwyr yn hytrach nag elw
Diwydiannau a wladolwyd gan y blaid Lafur (1945-50) 鈥 Diwydiant glo (1947) Trydan (1947) Rheilffyrdd (1948) Diwydiant haearn a dur (1949).

A oedd gwladoli yn llwyddiant neu鈥檔 fethiant?

Llwyddiant

  • Roedd 1 o bob 10 o bobl Prydain yn gweithio yn y diwydiannau gwladoledig yma.
  • Cynyddodd allbwn mewn nifer o ddiwydiannau, er enghraifft glo.
  • Roedd amodau gwaith yn y diwydiant glo wedi gwella wrth i weithwyr elwa o d芒l gwyliau a th芒l salwch.
  • Roedd rheilffyrdd yn cysylltu mwy o ardaloedd anghysbell gyda鈥檌 gilydd. Ni fyddai hyn yn ddeniadol i gwmn茂au preifat oherwydd nad oedd yn creu elw, ac mae鈥檔 debyg y bydden nhw wedi osgoi gwneud hynny.
  • Cafodd mwy o ardaloedd cefn gwlad eu trydaneiddio o dan y berchnogaeth newydd.

Methiant

  • Talodd y Llywodraeth 拢2700 miliwn o iawndal i鈥檙 diwydiannau blaenorol.
  • Roedd y Ceidwadwyr yn feirniadol o鈥檙 holl broses gan ddweud bod gan y llywodraeth ganolog ormod o reolaeth.
  • Roedd nifer o bobl yn credu bod y broses yn rhoi cymorth artiffisial i ddiwydiannau oedd yn dirywio.