Twf diwydiannau ysgafn mewn rhannau o Brydain
Ymddangosodd nifer o ddiwydiannau newydd yn y 1930au. Roedd nifer o鈥檙 diwydiannau newydd yma yn cael eu pweru gan drydan yn hytrach na glo, felly nid oedd angen eu hadeiladu鈥檔 agos i feysydd glo. Gellid eu hadeiladu yn agosach at ardaloedd 芒 phoblogaeth uchel megis canolbarth a de-ddwyrain Lloegr.
Nwyddau a chyflogwyr newydd
Cynhyrchwyd nwyddau newydd megis ceir, y radio, poptai ac oergelloedd. Roedden nhw鈥檔 cael eu masgynhyrchu mewn ffatr茂oedd modern.
Defnyddiwyd hysbysebu clyfar er mwyn annog defnyddwyr i brynu鈥檙 eitemau hyn drwy鈥檙 cynllun hurbwrcasu. A dyma oedd yn digwydd yn achos yr eitemau drytaf hyd yn oed.
Gellid prynu鈥檙 car mwyaf poblogaidd, yr Austin 7, am ddim ond 拢125 yn 1936. Roedd hynny yn 拢100 yn rhatach nag yn 1923. Gwerthwyd 2 filiwn o geir yn 1938.
Erbyn 1937, roedd gan hanner cartrefi Prydain radio, hyd yn oed yn ardaloedd tlotaf Cymru. Roedd gan fwy o gartrefi gyflenwad trydan, felly roedd pobl yn cael eu denu gan nwyddau trydanol newydd. Erbyn 1938, roedd y nifer o dai oedd 芒 chyflenwad trydan wedi codi i 9 miliwn.
Roedd cyflogwyr mawr yn cynnwys Ford yn Dagenham, Hoover (sugnwyr llwch) yn Isleworth, gorllewin Llundain a Cadbury yn Bourneville, Birmingham.