91热爆

Bomio dinasoedd Prydain - Abertawe, Belfast, Glasgow

Cyn i鈥檙 rhyfel ddechrau, rhoddwyd mygydau nwy a llochesi Anderson i ddinasyddion, ac anogwyd pobl i鈥檞 hadeiladu yng ngwaelod eu gerddi er mwyn eu gwarchod rhag y bomiau ac ymosodiadau cemegol posibl.

Yn ffodus, ni ddefnyddiwyd nwy yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ond roedd y llochesi yn hanfodol. Yn Llundain, ar 么l sawl noson o fomio diddiwedd a diffyg cwsg, aeth pobl i鈥檙 gorsafoedd tanddaearol i chwilio am ddiogelwch rhag yr ymosodiadau. Yng Nghaerdydd, roedd pobl yn defnyddio seleri鈥檙 castell i amddiffyn eu hunain.

Winston Churchill a mintai fawr yn cerdded drwy adeiladau wedi鈥檜 bomio.
Image caption,
Winston Churchill, Prif Weinidog Prydain, yn ymweld 芒 Llundain oedd wedi ei difrodi gan ymosodiadau o鈥檙 awyr

Roedd propaganda amser rhyfel a鈥檙 wasg yn canmol ysbryd y Blitz er mwyn dangos bod y bobl yn unedig, yn ddewr ac yn ddiwyro.

Bomio dinasoedd

DinasCanlyniad
LlundainBomiwyd Llundain bob nos rhwng 7 Medi a 2 Tachwedd. Gollyngwyd 13,500 tunnell o fomiau ffrwydrol iawn mewn 57 o ymosodiadau. Lladdwyd dros 15,000 o bobl, ac roedd 250,000 o bobl yn ddigartref. Bomiwyd adeiladau pwysig hefyd, megis Eglwys Gadeiriol St Paul, T欧鈥檙 Cyffredin a Phalas Buckingham, ac roedd y Brenin a鈥檙 Brenhines yn aml yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi dioddef. Parhaodd y bomio yn 1941.
CoventryBomiwyd Coventry am y tro cyntaf ar 14 Tachwedd 1940. Ar yr un noson honno, gollyngwyd dros 30,000 o fomiau ffrwydrol, lladdwyd 554 o bobl a dinistriwyd 50,000 o dai.
AbertaweBomiwyd Abertawe ar 19-21 Chwefror 1941 wrth i鈥檙 porthladd, dociau a鈥檙 burfa olew gyfagos gael eu targedu. Lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397 o bobl. Cafodd y cyfnod ei alw鈥檔 'Blitz y Tair Noson'.
BelfastRoedd yna bedwar ymosodiad yn rhan o Blitz Belfast yn ystod Ebrill a Mai 1941. Er enghraifft, ar ddydd Mawrth y Pasg, bu farw tua 900 o bobl ac anafwyd 1,500. Difrodwyd nifer o gartrefi鈥檔 ddifrifol ac roedd 150,000 o bobl yn ddigartref.
GlasgowRoedd ardaloedd diwydiannol yr Alban yn dargedau allweddol i fomwyr yr Almaen. Roedd gan Glasgow lawer o ffatr茂oedd ac roedd llongau cargo yn ymgasglu yn yr iardiau llongau ar Afon Clyde i ffurfio confois. Pan fomiwyd y ffatr茂oedd a鈥檙 iardiau llongau yn ystod Blitz yr Alban, collodd cannoedd eu bywydau a gadawyd llawer mwy yn ddigartref. Gelwir y digwyddiad yn 'Blitz Clydebank'.
DinasLlundain
CanlyniadBomiwyd Llundain bob nos rhwng 7 Medi a 2 Tachwedd. Gollyngwyd 13,500 tunnell o fomiau ffrwydrol iawn mewn 57 o ymosodiadau. Lladdwyd dros 15,000 o bobl, ac roedd 250,000 o bobl yn ddigartref. Bomiwyd adeiladau pwysig hefyd, megis Eglwys Gadeiriol St Paul, T欧鈥檙 Cyffredin a Phalas Buckingham, ac roedd y Brenin a鈥檙 Brenhines yn aml yn ymweld ag ardaloedd oedd wedi dioddef. Parhaodd y bomio yn 1941.
DinasCoventry
CanlyniadBomiwyd Coventry am y tro cyntaf ar 14 Tachwedd 1940. Ar yr un noson honno, gollyngwyd dros 30,000 o fomiau ffrwydrol, lladdwyd 554 o bobl a dinistriwyd 50,000 o dai.
DinasAbertawe
CanlyniadBomiwyd Abertawe ar 19-21 Chwefror 1941 wrth i鈥檙 porthladd, dociau a鈥檙 burfa olew gyfagos gael eu targedu. Lladdwyd 230 o bobl ac anafwyd 397 o bobl. Cafodd y cyfnod ei alw鈥檔 'Blitz y Tair Noson'.
DinasBelfast
CanlyniadRoedd yna bedwar ymosodiad yn rhan o Blitz Belfast yn ystod Ebrill a Mai 1941. Er enghraifft, ar ddydd Mawrth y Pasg, bu farw tua 900 o bobl ac anafwyd 1,500. Difrodwyd nifer o gartrefi鈥檔 ddifrifol ac roedd 150,000 o bobl yn ddigartref.
DinasGlasgow
CanlyniadRoedd ardaloedd diwydiannol yr Alban yn dargedau allweddol i fomwyr yr Almaen. Roedd gan Glasgow lawer o ffatr茂oedd ac roedd llongau cargo yn ymgasglu yn yr iardiau llongau ar Afon Clyde i ffurfio confois. Pan fomiwyd y ffatr茂oedd a鈥檙 iardiau llongau yn ystod Blitz yr Alban, collodd cannoedd eu bywydau a gadawyd llawer mwy yn ddigartref. Gelwir y digwyddiad yn 'Blitz Clydebank'.

Roedd nifer o ddinasoedd mawr eraill, megis Birmingham, Bryste, Caerdydd, Lerpwl a Manceinion wedi cael eu bomio gan y .

Golygfa o strydoedd Belfast gyda bloc sydd bron yn wag, a thomennydd o rwbel lle鈥檙 arferai adeilad fod.
Image caption,
Difrod y rhyfel yn Belfast