Gorfodi cyfraith a threfn cyn y 16eg ganrif
Plismona cyn 1500
Nid oedd yna heddlu yn bodoli cyn y 16eg ganrif. Cyfrifoldeb y dioddefwr a鈥檙 gymuned leol oedd canfod y troseddwr eu hunain. Disgwylid i gymunedau fod yn gyfrifol am blismona ac ymladd yn erbyn troseddu.
Roedden nhw'n gwneud hynny drwy:
- ddefnyddio gwaedd ac ymlid - sef, galw ar gyd-bentrefwyr i ymlid y troseddwr. Petai pentrefwyr yn methu ag ymuno, gellid dirwyo鈥檙 pentref.
- Degymiadau - roedd dynion yn cael eu rhoi mewn grwpiau o ddeg. Petai un aelod o鈥檙 deg yn torri鈥檙 gyfraith, cyfrifoldeb y gweddill oedd dal y dihiryn a mynd ag ef i鈥檙 llys.
Yn ystod yr oesoedd canol, bu ychydig o ddatblygu ar y system hon.
Penodwyd Siryfion Sirol er mwyn goruchwylio cyfraith a threfn yn y siroedd. Roedden nhw'n cael eu penodi gan y Brenin a nhw oedd y prif swyddogion cyfreithiol yn ystod y canol oesoedd. Petai pentrefwyr yn methu 芒 dal troseddwr, byddai鈥檙 Siryf yn ffurfio posse comitatusGr诺p o ddynion 15 oed a throsodd a alwyd i erlid troseddwr. er mwyn parhau i ymlid y troseddwr. Gellid gorfodi pob dyn dros 15 oed i ymuno 芒 posse gan y Siryf.
Byddai posse hefyd yn delio ag unrhyw reiadau lleol. Roedd Siryf hefyd yn ymchwilio i droseddau difrifol, eto gyda chymorth rheithgor o bobl leol fyddai鈥檔 tyngu llw er mwyn dweud pwy yr oedden nhw'n credu oedd wedi cyflawni鈥檙 drosedd. Byddai鈥檙 Siryf hefyd yn cadw troseddwr, ar 么l ei ddal, mewn carchar lleol.
Penodwyd Crwneriaid Sirol ar 么l 1190. Roedden nhw'n ymchwilio i farwolaethau treisgar neu amheus, gyda chymorth rheithgor o bobl leol.
Ar 么l 1250, dechreuodd pentrefi benodi Cwnstabliaid ym mhob pentref er mwyn monitro cyfraith a threfn. Byddai鈥檙 rhain yn bentrefwyr blaenllaw fyddai鈥檔 ymgymryd 芒鈥檙 r么l am flwyddyn. Roedd yn swydd ddi-d芒l a byddai鈥檙 Cwnstabl yn arwain y waedd ac ymlid, a byddai ganddo gyfrifoldebau eraill hefyd.
Treialon cyn 1500
Roedd barnwyr brenhinol yn teithio o gwmpas y wlad yn delio ag achosion difrifol. Sefydlwyd llysoedd sirol, gydag Ynadon Heddwch (YH), a elwid hefyd yn Ynadon, yn gwrando ar achosion. Fel arfer, y prif dirfeddianwyr lleol oedd yr Ynadon. Roedd hon yn swydd ddi-d芒l. Roedd gan bob pentref neu faenor lys maenor o hyd, oedd yn cael ei gynnal gan yr arglwydd neu dirfeddiannwr lleol ar gyfer m芒n achosion.
Cyfreithiau Hywel Dda
Roedd Hywel Dda yn llywodraethwr Cymreig yn y 10fed ganrif. Fe unodd y rhan fwyaf o Gymru o dan ei arweinyddiaeth. Hefyd, fe ysgrifennodd system gyfreithiol unedig cyntaf Cymru. Ar 么l y Goncwest Normanaidd, parhaodd Cyfreithiau Hywel Dda i fod yn sylfaen i system gyfreithiol Cymru.
Yn 1284 bu i Statud Rhuddlan orfodi defnyddio cyfraith Lloegr ym mhob achos troseddol yng Nghymru. Ond, roedd cyfreithiau Hywel Dda yn parhau i gael eu defnyddio mewn achosion sifil hyd at 1540.
Roedd y cyfreithiau yn nodi system o ddigolledu dioddefwyr troseddau ar gyfer amrywiol droseddau. Er enghraifft, byddai teuluoedd dioddefwyr llofruddiaeth yn cael eu digolledu鈥檔 ariannol.
Roedd cyfreithiau Hywel Dda yn rhoi cydgyfrifoldeb am orfodi鈥檙 gyfraith. Cyfrifoldeb y Carennydd (Cenedl) oedd ymddygiad yr aelodau.