Y cysyniad o heddluoedd yn y 19eg ganrif, a鈥檜 datblygiad
Datblygiadau yn y 18fed ganrif i鈥檙 cysyniad o blismona cyfundrefnol
Erbyn y 18fed ganrif daeth yn fwy ac yn fwy amlwg nad oedd y system o blismona oedd yn bodoli yn effeithiol. Roedd y gyfradd droseddu yn codi, ac roedd troseddau newydd yn datblygu. Roedd Ynadon yn aml yn llwgr. Fel arfer roedd Gwarchodwyr yn aneffeithiol ac yn aml nid oedd Cwnstabliaid yn hoffi beth roedd gofyn iddyn nhw ei wneud fel rhan o鈥檙 gwaith.
Roedd y cynnydd yn y boblogaeth, a thwf trefi, yn golygu ei bod yn anodd i amaturiaid di-d芒l gadw cyfraith a threfn. Dechreuodd heddweision answyddogol, neu Cymerwyr Lladron, fel Charles Huitchen, wneud elw drwy ddal troseddwyr neu drefnu i ddychwelyd nwyddau wedi鈥檜 dwyn i鈥檞 perchnogion a hawlio gwobrau am wneud. Yn ddiweddarach, cafodd Jonathan Wild, cynorthwywr Huitchen, y llysenw Thief Taker General of Great Britain and Ireland. Ymddangosai fel petai鈥檔 plismona strydoedd Llundain yn wirfoddol, yn trosglwyddo troseddwyr i'r awdurdodau ac yn trefnu i'r nwyddau gael eu dychwelyd am elw. Ond ef a鈥檌 ddynion oedd y tu 么l i鈥檙 rhan fwyaf o鈥檙 achosion o ddwyn yn yr ardal.
Dechreuodd rhai unigolion ddatblygu syniadau am gyflogi heddlu wedi eu trefnu yn Llundain.
Y brodyr Fielding
Roedd yr hanner brodyr Henry a John Fielding yn Ynadon yn Bow Street yn Llundain. Daeth Henry Fielding yn brif ynad Llys Bow Street yn 1748. Ysgrifennodd adroddiad o鈥檙 enw An Enquiry into the Causes of the Late Increase of Robbers and Related Writings ynghylch y cynnydd mewn troseddu, ac fe鈥檌 cyhoeddwyd yn 1751. Roedd ei adroddiad yn nodi bod y gyfradd droseddu鈥檔 codi yn Llundain oherwydd bod pobl yn disgwyl bywyd hawdd ac yn troi at droseddu yn hytrach na gwaith, llygredd yn y llywodraeth a鈥檙 systemau plismona aneffeithiol.
Arwyddair Henry oedd 鈥淨uick notice and sudden pursuit鈥. Credodd mewn defnyddio'r cyhoedd, a gosododd hysbysebion mewn papurau newydd yn gofyn i bobl am eu cymorth. Dyma fynd ati eto i gynnwys y gymuned, ond bod y dull yn wahanol.
Sefydlodd Henry Fielding heddlu o gwnstabliaid cyflogedig oedd yn patrolio Llundain, o鈥檙 enw Ceidwaid Bow Street. Cychwynnodd hynny gyda chwe dyn, oedd yn swyddogion hyfforddedig a chyflogedig llawn amser. I ddechrau roedd y dynion yma鈥檔 cael eu talu gyda grant gan y llywodraeth, ond roedden nhw hefyd yn cael gwobrau am ddal troseddwyr yn yr un modd 芒鈥檙 maglwyr lladron. Erbyn 1800, roedd yna 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain.
Mae鈥檙 ffaith eu bod hefyd wedi derbyn grantiau gan y llywodraeth yn dangos bod llywodraeth ganolog yn dechrau ymwneud 芒 phlismona. Roedden nhw hefyd yn canolbwyntio ar ddelio 芒 throseddau penodol mewn ffordd drefnus.
Bu farw Henry yn 1754 a bu John, ei hanner-brawd dall, yn parhau 芒鈥檌 waith. Cafodd John grant gan y llywodraeth er mwyn sefydlu patr么l ceffylau er mwyn delio 芒 chynnydd mewn lladrata pen ffordd. Er mai grant dros dro ydoedd, roedd yn arwydd fod y llywodraeth yn ymwneud fwyfwy 芒 gorfodi cyfraith a threfn ac yn ymrwymo i plismona ataliolPlismona mewn ffordd sy'n anelu at atal pobl rhag troseddu..
Parhaodd John 芒 syniad Henry o apelio i鈥檙 cyhoedd am help wrth ddatrys troseddau. Cyhoeddodd bapur newydd o鈥檙 enw The Quarterly Pursuit, a ailenwyd yn The Public Hue and Cry yn 1786, a chafodd ei gyhoeddi'n wythnosol. Roedd y papurau newydd yma yn cyhoeddi gwybodaeth am eiddo wedi鈥檌 ddwyn a throseddau a disgrifiadau o bobl dan amheuaeth. Daeth yn ffordd o rannu gwybodaeth am droseddau yn genedlaethol.
Ond, er gwaethaf eu llwyddiant, dim ond mewn rhan fechan o Lundain cafwyd y newidiadau yma. Nid oedden nhw wedi cael eu datblygu yng ngweddill y wlad. Ar y pryd roedd yna lawer o wrthwynebiad i鈥檙 cysyniad o heddlu sefydledig oherwydd:
- nid oedd pobl yn hoffi cost cynnal heddlu
- nid oedd y bobl yn hoffi鈥檙 syniad o godi trethi
- pryderon y byddid yn colli rhyddid ac y byddid yn amharu ar breifatrwydd
Y tu hwnt i Bow Street, roedd y cyfrifoldeb am blismona, gyda Chwnstabliaid, Gwarchodwyr ac Ynadon yn dal i fodoli.
Arweiniodd llwyddiant Ceidwaid Bow Street at fentrau eraill ar 么l marw鈥檙 brodyr Fielding.
- Yn 1792, roedd Deddf Ynadon Middlesex yn golygu bod saith Ynad Heddwch arall wedi cael eu hariannu i ymestyn Cynllun Bow Street i'w hardaloedd nhw. Arweiniodd hyn at 68 o Geidwaid Bow Street yn Llundain erbyn 1800.
- Yn 1798, sefydlwyd Heddlu Afon Tafwys. Dyma ganlyniad dylanwad Ynad Heddwch arall, sef Patrick Colquhoun.
- Yn 1805, sefydlwyd patr么l ceffylau eto. Roedd ganddo 54 o swyddogion. Dywedid bod y rheini鈥檔 debyg i robin goch oherwydd y lifrai coch.
Ond roedd gwaith a dylanwad Fielding wedi鈥檌 gyfyngu i rannau o Lundain yn unig 鈥 roedd yr un hen system, sef Ynad Heddwch a chwnstabliaid, yn dal i fodoli ymhob man arall.
Y cysyniad o heddlu cyfundrefnol yn ystod y 19eg ganrif
Erbyn dechrau鈥檙 19eg ganrif, roedd yna gefnogaeth gynyddol i鈥檙 cysyniad o heddlu llawn amser proffesiynol wedi ei ariannu gan y wladwriaeth. Yn 1800, mabwysiadodd Glasgow gynllun i drefnu Cwnstabliaid a Gwarchodwyr yn llu i warchod y ddinas. Roedd Syr Robert Peel, Yr Ysgrifennydd Cartref, yn cefnogi'r syniad bod y llywodraeth yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu plismona. Ond roedd y syniad yn dal yn un dadleuol.
Oherwydd bod y gyfradd droseddu yn codi, yn arbennig yn y trefi diwydiannol ac yn Llundain, roedd Peel yn dadlau bod angen newid y dull o blismona. Roedd pobl yn fwy a mwy ymwybodol bod y rhan fwyaf o鈥檙 dulliau oedd eisoes yn bodoli o ddal troseddwyr (Ynadon, Cwnstabliaid a Charlies) yn aneffeithiol, yn enwedig yn sgil y newidiadau diwydiannol ac amaethyddol anferthol a鈥檙 newid o ran y boblogaeth a ddigwyddodd yr adeg hynny. Roedd y twf mewn protestio poblogaidd yn ddigon i berswadio nifer bod angen heddlu proffesiynol. Dangosodd digwyddiadau megis Cyflafan Peterloo yn 1819 bod yna wendid i ddibynnu ar y fyddin i ddelio 芒 phrotestiadau cyhoeddus.
Wrth edrych yn 么l, mae鈥檔 amlwg bod llawer o bobl yn gwrthwynebu鈥檙 syniad fod yr heddlu鈥檔 cael ei redeg gan y wladwriaeth oherwydd roedden nhw鈥檔 credu y byddai鈥檔 fygythiad i ryddid. Roedd pobl yn credu y byddai鈥檙 llywodraeth yn defnyddio鈥檙 heddlu i orfodi pobl i wneud beth bynnag yr oedden nhw'n ei ddymuno. Gwelwyd hynny mewn gwledydd Ewropeaidd eraill. Roedd pobl yn credu y byddai鈥檙 heddlu yn fusneslyd ac yn ymyrryd ym musnes pobl. Roedd llawer yn glynu wrth y syniad, a oedd wedi parhau ers yr oesoedd canol, y dylai pobl orfodi'r gyfraith eu hunain. Ond, y cynnydd mewn trethi er mwyn talu am yr heddlu oedd y prif reswm dros eu gwrthwynebiad.