91Èȱ¬

Catholigaeth yn oes ElisabethGoddefiant cynnar

Er gwaetha’r ffaith i’r 'ffordd ganol' gael ei derbyn i ddechrau, cynyddodd y bygythiad Catholig o ddiwedd y 1560au. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ddienyddio Mari, Brenhines y Sgotiaid a rhyfel gyda Sbaen. Pam roedd y Catholigion yn fygythiad i Elisabeth?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Goddefiant cynnar

Roedd Ardrefniant Crefyddol Oes Elisabeth yn 1559 fod i roi sefydlogrwydd crefyddol i Gymru a Lloegr. Ac i raddau helaeth llwyddodd i wneud hynny yn y 1560au. Roedd gwrthwynebiad uchelwyr Catholig Tŷ’r Arglwyddi i’w chynlluniau yn sioc i Elisabeth a sylweddolodd fod nifer o bobl dal yn Gatholig, mwyafrif y bobl o bosib, felly troediodd Elisabeth yn ofalus yn y blynyddoedd yn dilyn yr Ardrefniant.

O ganlyniad, dilynwyd polisi o oddefiant tuag at y Catholigion. Nid oedd Protestaniaeth yn cael ei orfodi’n llym ac nid oedd cosbau wastad yn cael eu gorfodi. Roedd sawl rheswm am hynny.

  • Roedd hi’n bosib y gallai’r pwerau Catholig yn Ewrop geisio ymyrryd pe byddai erledigaeth y Catholigion yn digwydd.
  • Roedd nifer o uchelwyr Catholig pwerus yng Nghymru a Lloegr, yn enwedig yng Ngogledd Lloegr.
  • Roedd nifer o bobl yn Gatholig ac roedd angen eu teyrngarwch ar Elisabeth er mwyn bod yn Frenhines lwyddiannus.

Serch hynny, erbyn diwedd y 1560au, dechreuodd cyfres o ddigwyddiadau i herio polisi goddefgarwch Elisabeth, gan arwain at safbwynt llymach. Dyma fyddai’r bygythiad pennaf i Elisabeth am yr 20 mlynedd nesaf.