Esgymuno Elisabeth yn 1570
Ym mis Chwefror 1570, cyhoeddodd Pab Pius V fod Elisabeth yn hereticRhywun lle mae ei gredoau/chredoau yn herio'r Eglwys Gatholig. Daeth y term yn ddiweddarach i olygu unrhyw wrthwynebiad i'r grefydd sefydledig. ac o’r herwydd, cafodd ei hesgymuno drwy Bwla'r Pab (llythyr gorchymyn). Roedd y llythyr yn rhyddhau Catholigion o unrhyw deyrngarwch at Elisabeth a galwodd arnyn nhw i’w thynnu oddi ar yr orsedd.
Yn ogystal â gwrthryfel diweddar Ieirll y Gogledd, roedd y Pab yn ceisio manteisio ar yr anfodlonrwydd a achoswyd gan ddyfodiad Mari, Brenhines y Sgotiaid yn Lloegr. Roedd hyn yn peryglu Ardrefniant Oes Elisabeth a gallai gynnig rheswm am wrthryfel Catholig, gyda chefnogaeth pŵer estron o bosib.
Serch hynny, roedd y Pab wedi camgyfrif. Roedd yn well gan Gatholigion Cymraeg a Saesneg gadw’n dawel am eu credoau crefyddol a pharhau’n deyrngar i Elisabeth. Roedd y Pab wedi camgyfrif yn sylweddol ei bŵer dros y Catholigion yn y gwledydd hyn. Roedden nhw eisiau parhau i fyw ac addoli fel Catholigion ond doedd y mwyafrif ddim eisiau i’r Pab gael pŵer gwleidyddol.
Er gwaethaf hynny, doedd y Senedd ddim am fentro, a phasiwyd cyfres o ddeddfau yn 1571 i ddiogelu Elisabeth rhag effaith y Bwla'r Pab.
- Roedd y Deddfau Brad yn ei gwneud hi’n bradBradychu brenin/brenhines neu wlad eich hun. i unrhyw un ddweud neu ysgrifennu nad oedd Elisabeth yn wir Frenhines Cymru a Lloegr.
- Roedd deddf arall yn ei gwneud hi’n anghyfreithlon i unrhyw un ddod ag unrhyw Lythyr Pab i mewn i Gymru a Lloegr a chyflawni ei orchmynion.