Strwythur cymdeithas
Roedd cymdeithas oes Elisabeth wedi’i strwythuro’n gadarn ac roedd disgwyl i bawb wybod eu lle o fewn y strwythur hwnnw. Roedd hierarchaethSystem ar ffurf triongl; yr uchaf i fyny’r triongl, y lleiaf o bobl sydd yna, ond bod ganddyn nhw fwy o bŵer, cyfoeth neu gyfrifoldeb. llym, gyda’r rhan fwyaf yn credu mai gorchymyn Duw oedd hynny.
Gellid ychwanegu haenau pellach o fewn y strwythur cyffredinol hwn. Yng Nghymru a Lloegr oes Elisabeth, islaw’r uchelwyr ac uwchlaw’r werin, byddai:
- y bonedd – tirfeddianwyr llai
- masnachwyr a gweithwyr proffesiynol
- iwmonFfermwr oedd yn berchen ar ei dir. a ffermwr tenantFfermwr oedd ddim yn berchen ar ei dir ond yn rhentu oddi wrth dirfeddiannwr.
- crefftwyr
Roedd bywyd ar gyfer 20 i 30 y cant isaf y boblogaeth yn anodd iawn, gyda nifer ohonyn nhw wastad ar fin newynu. Roedd y sefyllfa’n waeth yn ystod y cyfnod hwn oherwydd prisiau’n codi, cynaeafau gwael a diweithdra.
Cynnydd mewn cyfoeth
Cynyddodd nifer o uchelwyr a masnachwyr eu cyfoeth yn ystod y cyfnod hwn.
- Roedd nifer wedi prynu tir wrth i Harri VIII diddymu'r mynachlogyddCaeodd Harri VIII pob mynachlog yng Nghymru a Lloegr rhwng 1536 a 1541. Gwerthwyd eu holl dir ac adeiladau..
- Ehangu masnach tramor yn Ewrop a thu hwnt.
- Buddsoddi mewn cwmnïau masnachu.
- Dyfarnu monopoliTrwydded frenhinol oedd yn rhoi hawl unigryw i unigolion gynhyrchu neu werthu nwyddau..
- Elw gwerthiant gwlân.