Achosion tlodi – diweithdra a chrwydraeth
Tlodi oedd un o broblemau mawr Elisabeth yn ystod ei theyrnasiad. Yn ystod y cyfnod hwn, cynyddodd nifer y di-waith yn sylweddol am nifer o resymau. Roedd agweddau tuag at dlodi hefyd yn wahanol i heddiw gyda nifer o’r farn bod y di-waith yn rhy ddiog i ddod o hyd i waith. Roedd system llesCymorth ariannol a ddarparwyd gan y llywodraeth. gyfyng iawn i helpu’r rheini mewn angen.
Cynnydd mewn tlodi
Arweiniodd amrywiaeth o ffactorau at y cynnydd mewn tlodi yn ystod y cyfnod hwn. Ugain mlynedd cyn teyrnasiad Elisabeth, roedd Harri VIII wedi diddymu'r mynachlogyddCaeodd Harri VIII pob mynachlog yng Nghymru a Lloegr rhwng 1536 a 1541. Gwerthwyd eu holl dir ac adeiladau..
Wnaeth hyn ddim helpu – nid yn unig cafodd gweision y mynachod a’r lleianod eu diswyddo, ond doedd gan y tlawd unman i fynd am loches achlysurol. O ganol y 1500au, cyfrannodd y ffactorau canlynol yn fawr at y broblem dlodi.
Rheswm | Eglurhad |
Y boblogaeth yn cynyddu | Cynyddodd y boblogaeth filiwn yn ystod cyfnod Elisabeth. Roedd mwy o bobl yn golygu mwy o alw am nwyddau, ac felly, cododd prisiau. |
Chwyddiant | Cododd prisiau nwyddau, ond syrthiodd cyflogau gan fod mwy o bobl ar gael i wneud y gwaith. |
Cwymp y diwydiant brethyn | Brethyn gwlân oedd yn cael ei allforio fwyaf yn Lloegr. Cafwyd gostyngiad yn y galw ac arweiniodd hynny at ddiweithdra. |
Rhyfeloedd | Cynyddodd trethi i wneud iawn am bris rhyfela. |
Cynaeafau gwael | Cafwyd cynaeafau arbennig o wael yn y 1590au, gan arwain at hyd yn oed mwy o alw a phrisiau’n codi ymhellach. |
Newidiadau mewn ffermio | Penderfynodd nifer o landlordiaid i amgylchynu eu caeau a chadw defaid yn hytrach na thyfu cnydau a arweiniodd at ddiweithdra uchel. |
Rheswm | Y boblogaeth yn cynyddu |
---|---|
Eglurhad | Cynyddodd y boblogaeth filiwn yn ystod cyfnod Elisabeth. Roedd mwy o bobl yn golygu mwy o alw am nwyddau, ac felly, cododd prisiau. |
Rheswm | Chwyddiant |
---|---|
Eglurhad | Cododd prisiau nwyddau, ond syrthiodd cyflogau gan fod mwy o bobl ar gael i wneud y gwaith. |
Rheswm | Cwymp y diwydiant brethyn |
---|---|
Eglurhad | Brethyn gwlân oedd yn cael ei allforio fwyaf yn Lloegr. Cafwyd gostyngiad yn y galw ac arweiniodd hynny at ddiweithdra. |
Rheswm | Rhyfeloedd |
---|---|
Eglurhad | Cynyddodd trethi i wneud iawn am bris rhyfela. |
Rheswm | Cynaeafau gwael |
---|---|
Eglurhad | Cafwyd cynaeafau arbennig o wael yn y 1590au, gan arwain at hyd yn oed mwy o alw a phrisiau’n codi ymhellach. |
Rheswm | Newidiadau mewn ffermio |
---|---|
Eglurhad | Penderfynodd nifer o landlordiaid i amgylchynu eu caeau a chadw defaid yn hytrach na thyfu cnydau a arweiniodd at ddiweithdra uchel. |
Cardotwyr
Yn ogystal â chynnydd mewn diweithdra, cafwyd cynnydd yn nifer y cardotwyr oedd yn crwydro cefn gwlad a threfi yn chwilio am waith. Roedd llywodraeth oes Elisabeth yn bryderus iawn ynglŷn â phroblemau’r tlawd, fel yr oedd pobl gyffredin.
- Clefydau – cafwyd sawl achos o’r pla a chlefydau eraill yn y 16eg ganrif. Roedd nifer o bobl o’r farn bod grwpiau o gardotwyr crwydrol yn lledaenu clefydau.
- Troseddu – byddai cardotwyr yn troi at droseddu’n aml iawn. Doedd dim heddlu ar y pryd, ac roedd Ynadon Heddwch yn credu bod cardotwyr yn fygythiad difrifol i’w hawdurdod.
- Gwrthryfeloedd – roedd llywodraethau’r 16eg ganrif wastad yn poeni am y bygythiad o wrthryfeloedd. Efallai y byddai uchelwyr anhapus yn ceisio ennill cefnogaeth y tlawd i wrthryfela yn erbyn y Frenhines.
- Diogi – roedd y rhan fwyaf o bobl yn credu bod cardotwyr yn gosod esiampl wael oherwydd bod rhai yn gwrthod gweithio. Roedden nhw’n credu bod diogi yn bechod ac y dylid cosbi’r bobl hyn.
- Y drefn gymdeithasol – credid bod gan bawb lle sefydlog mewn cymdeithas ac y dylid ufuddhau i’r rheini ar frig y drefn gymdeithasol. Roedd cardotwyr crwydrol yn bygwth y ‘drefn naturiol’ hon ac felly’n fygythiad i gymdeithas.
Y tlawd oedd yn haeddu help a’r tlawd oedd ddim yn haeddu help
Wrth i deyrnasiad Elisabeth fynd yn ei flaen, roedd pobl yn cydnabod ac yn disgrifio’r nifer o wahanol fathau o bobl dlawd yn y wlad. Roedden nhw’n cael eu rhannu’n gyffredinol yn:
- Y tlawd oedd yn haeddu help – dyma’r tlawd, heb unrhyw fai ar eu hunain, oedd yn haeddu cael help. Er enghraifft, y di-waith go iawn, y bobl sâl, yr henoed a’r amddifad.
- Y tlawd oedd ddim yn haeddu help – dyma’r cardotwyr holliach neu abl oedd ddim yn gallu trafferthu dod o hyd i waith. Y term mwyaf cyffredin oedd crwydrwyr.
Crwydrwyr oedd problem fwyaf y llywodraeth, a hyd yn oed bryd hynny, roedd nifer o fathau gwahanol.
- Dynion Abraham/Tom O’Bedlam – cardotwyr oedd yn ffugio bod yn wallgof, ac yn ceisio cael arian drwy haelioni pobl eraill.
- Clapperdudgeon – ffugio bod yn sâl drwy greu briwiau ffug ar eu cyrff, gan obeithio am gydymdeimlad.
- Ffugiwr ffitiau – ffugio bod yn epileptig. Bydden nhw'n defnyddio sebon er mwyn edrych fel pe bawn nhw'n ewynnu o amgylch y geg.
Sefydliadau ar gyfer y tlawd
Roedd trefi mwy yn ceisio delio â’r broblem drwy sefydlu sefydliadau amrywiol i ymdrin â mathau gwahanol o’r tlawd. Gwnaeth llefydd fel Llundain, Ipswich, Lincoln a Norwich gynlluniau i gael y tlawd i weithio.
Dechreuodd nifer o lefydd gynnal cyfrifiadCyfrif swyddogol o’r boblogaeth. i ddadansoddi’r boblogaeth. Yn Llundain, bu’n rhaid delio â nifer o’r bobl dlawd a defnyddiwyd ysbytai fel St Bartholomew’s a St Thomas’ ar gyfer y bobl sâl.