Problemau crefyddol yn 1559
Ar ddechrau’r 16eg ganrif roedd pawb yng Nghymru a Lloegr yn Gatholig. Serch hynny, roedd rhai ysgolheigion tramor yn dechrau dadlau bod yr Eglwys Gatholig Rufeinig wedi dod yn rhy gyfoethog, yn llwgr ac wedi symud i ffwrdd o’r Beibl.
Protest Martin Luther yn yr Almaen yn erbyn materion o’r fath a ddechreuodd y Diwygiad Protestannaidd a ymledodd ar draws Ewrop.
Ni ddechreuodd Cymru a Lloegr gynhesu o ddifri at syniadau Protestannaidd nes teyrnasiad Edward VI. Gwnaeth ei dad, Harri VIII, ei hun yn Bennaeth yr Eglwys er mwyn ysgaru Catherine o Aragon, ond parhaodd ei Eglwys fel Eglwys Gatholig Seisnig.
Yn ystod teyrnasiad Edward VI, daeth Cymru a Lloegr yn fwy Protestannaidd, gyda’r Llyfr Gweddi Gyffredin a’r gwasanaethau yn Saesneg. Serch hynny, adeg ei farwolaeth, dychwelodd Mari I y wlad i’r ffydd Gatholig yn gyfan gwbl, gan losgi dros 280 o Brotestaniaid yn ystod ei theyrnasiad byr.
Felly, pan ddaeth Elisabeth yn Frenhines, roedd y Protestaniaid a’r Catholigion yn awyddus i weld pa grefydd y byddai hi’n ei dilyn ac a fyddai erledigaeth grefyddolPan roedd pobl yn cael eu cosbi am beidio â dilyn crefydd swyddogol y wlad. yn digwydd.
Heddiw, mae gan nifer o wledydd oddefgarwch crefyddol, sy’n golygu y gall pobl addoli ym mha bynnag ffordd y maen nhw'n ei ddymuno. Serch hynny, roedd pethau yn wahanol iawn yn y 16eg ganrif. Credwyd os byddai gwlad am fod yn unedig ac yn rhydd rhag rhyfel cartref, yna dylai pawb gredu yn yr un grefydd a pherthyn i’r un Eglwys. Felly roedd hi’n amhosibl meddwl am oddefgarwch crefyddol.
Felly roedd crefydd yn un o’r problemau y bu’n rhaid i Elisabeth ddelio ag ef yn syth. Pe byddai Elisabeth, a fagwyd fel Protestant, yn gorfodi’r ffydd Brotestannaidd ar Gatholigion, byddai ei gobeithion o aros yn Frenhines am amser hir o dan fygythiad, yn ogystal â sefydlogrwydd y wlad.
Felly ceisiodd greu ei chrefydd ei hun, a alwyd yn Ardrefniant Crefyddol, lle roedd hi’n gobeithio bodloni galwadau’r ddwy elfen. Daeth yr Ardrefniant yn gyfarwydd fel y Via Media ²Ô±ð³Ü’r 'ffordd ganol'.