91Èȱ¬

Crefydd yn oes ElisabethYmateb i Ardrefniant Crefyddol Cymru a Lloegr

Roedd crefydd yn hollti barn pobl yng Nghymru a Lloegr wrth i syniadau Protestannaidd herio goruchafiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Cynigiodd Elisabeth ‘ffordd ganol’ fel cyfaddawd. Pa mor llwyddiannus oedd Elisabeth wrth ddelio â phroblem crefydd?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Ymateb i’r Ardrefniant Crefyddol yng Nghymru a Lloegr

Bwriad Elisabeth oedd y byddai’r Ardrefniant Crefyddol yn gyfaddawd derbyniol i bobl o bob safbwynt crefyddol.

Cafwyd sawl rheswm pam bod yr ymatebion i’r Ardrefniant wedi bod yn bositif gan fwyaf.

  • Cymerodd y mwyafrif o offeiriaid y Llw Goruchafiaeth. Gwrthododd tua 250 o’r 9,000 o offeiriaid ac fe wnaethon nhw golli eu swyddi.
  • Roedd nifer o’r esgobion Catholig wedi ymddiswyddo, ac felly ni chafwyd gwrthwynebiad cryf. Cafodd y swyddi eu llenwi gan gefnogwyr teyrngar.
  • Nid oedd dirwyon yn cael eu gorfodi’n llym.
  • Cyn belled â bod pobl yn cydymffurfio â’r Ardrefniant i bob golwg, roedd goddefgarwch yn cael ei ganiatáu.
  • Roedd Matthew Parker, Archesgob Caergaint, yn uchel ei barch fel Protestant cymedrol.
Portrait of Matthew Parker.
Image caption,
Matthew Parker, yr Archesgob Caergaint dylanwadol (1559-1575)

Yn ogystal, cyflwynodd Elisabeth fesurau i atgyfnerthu deddfau, fel y Gorfodebion Brenhinol 1559, oedd yn rhoi cyfres o gyfarwyddiadau i offeiriaid gan gynnwys gwahardd gwyrthiau ‘ffug’ a chyflwyno gwybodaeth am reciwsantiaid i’r awdurdodau. Hefyd, anfonodd 125 o gomisiynwyr ar daith o amgylch y wlad i weld bod y rheolau yn cael eu dilyn.

Roedd Deddf Gyfnewid 1559 yn caniatáu’r Frenhines i gymryd tir ac adeiladau oddi wrth yr Eglwys a gorfodi Esgobion i dalu rhent, gan ychwanegu cryn dipyn at goffrau’r Frenhines.

Roedd llwyddiant cymharol yr Ardrefniant yn golygu y daeth sefydlogrwydd crefyddol i Gymru a Lloegr, am nawr o leiaf. Dramor, roedd yr ymateb i’r Ardrefniant yn dawel. Roedd y Ffrancwyr yn poeni am eu problemau crefyddol eu hunain. Ac yn ystod y cyfnod hwn o leiaf, roedd Sbaen, dan arweiniad Brenin Philip II, yn dal i obeithio gallu cynnal perthynas gyfeillgar gyda Chymru a Lloegr yn y gobaith y byddai Catholigiaeth yn cael ei adfer yn y pen draw.

Serch hynny, erbyn y 1570au ac yn sicr erbyn y 1580au, byddai’r gwrthwynebiad i’r Ardrefniant yn cynyddu wrth y Catholigion, wrth i’r berthynas â Sbaen waethygu. Byddai’r gwrthwynebiad hefyd yn cynyddu wrth Brotestaniaid eithafol, o’r enw Piwritaniaid, fyddai’n ceisio newid elfennau o’r 'ffordd ganol' i blesio eu credoau eu hunain.