91Èȱ¬

Crefydd yn oes ElisabethYr Ardrefniant Crefyddol

Roedd crefydd yn hollti barn pobl yng Nghymru a Lloegr wrth i syniadau Protestannaidd herio goruchafiaeth yr Eglwys Gatholig Rufeinig. Cynigiodd Elisabeth ‘ffordd ganol’ fel cyfaddawd. Pa mor llwyddiannus oedd Elisabeth wrth ddelio â phroblem crefydd?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Yr Ardrefniant Crefyddol

Bwriad yr Ardrefniant Crefyddol oedd lleihau’r tensiynau a grëwyd gan rwygiadau crefyddol y 25 mlynedd flaenorol. Ceisiodd gymryd elfennau Protestannaidd a Chatholig, ond gan fod cynifer o Brotestaniaid wedi dod yn Aelodau Seneddol, efallai bod yr Ardrefniant yn fwy Protestannaidd nag y dymunai.

Roedd Ardrefniant Crefyddol Elisabeth yn cael ei gynnwys mewn dwy ddeddf – y Ddeddf Oruchfiaeth a’r Ddeddf Unffurfiaeth.

Delwedd o’r Ddeddf Oruchafiaeth, ar y chwaith, a’r Ddeddf Unffurfiaeth, ar y dde.

Deddf Oruchfiaeth 1559

Roedd yn ofynnol i offeiriaid a swyddogion y llywodraeth gymryd Llw Goruchfiaeth. Roedd hynny’n golygu tyngu llw y byddent yn derbyn Elisabeth fel Uchaf-Lywodraethwr yr Eglwys.

Drwy ddefnyddio’r term 'llywodraethwr' gobeithiwyd y byddai’r Catholigion yn gan y gallent barhau i ystyried y Pab fel pennaeth yr Eglwys. Byddai’r rheini oedd yn gwrthod tyngu llw yn cael eu carcharu neu eu dienyddio hyd yn oed pe byddent yn gwrthod tair gwaith.

Deddf Unffurfiaeth 1559

Roedd hyn yn gosod y rheolau ynglŷn â gwasanaethau crefyddol oedd i’w cynnal mewn eglwysi ledled Cymru a Lloegr. Dywedodd y dylid defnyddio'r Llyfr Gweddi Gyffredin newydd, oedd yn seiliedig ar deyrnasiad Edward, ym mhob eglwys ac y byddai pobl yn cael eu cosbi un swllt os na fyddent yn mynychu. Byddai’r bobl oedd yn gwrthod mynychu gwasanaethau’r Eglwys yn cael eu galw’n reciwsantiaid.

Crynodeb

Beth roedd Catholigion yn ei greduArdrefniant Crefyddol ElisabethBeth roedd Protestaniaid yn ei gredu
Dylai’r Eglwys gael ei rheoli gan hierarchaeth llym y Pab, yna’r Cardinaliaid, ac yna’r Archesgobion ayyb.Y Frenhines fyddai’n rheoli fel Oruchaf Lywodraethwr gyda chefnogaeth yr esgobion.Ni ddylid cael Pab nac esgobion.
Y seremoni bwysicaf yw’r Offeren.Ni ddylid cael Offeren. Ni ddylid cael Offeren.
Dylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn Lladin. Dylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn Saesneg. Dylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn yr ieithoedd brodorol.
Dylai eglwysi gael eu haddurno’n gywrain a dylai’r gwasanaethau fod yn llawn defodau. Dylai eglwysi gael eu haddurno a dylid caniatáu rhai defodau.Dylai eglwysi a gwasanaethau fod yn blaen.
Dylai offeiriaid wisgo gwisgoedd lliwgar a bod yn ddi-briod.Dylai offeiriaid wisgo gwisgoedd clerigol a gŵn lliain gwyn a bod yn ddi-briod. Gwisgoedd plaen ddylid eu gwisgo gan eglwyswyr a dylid caniatáu iddyn nhw. briodi
Dylai seintiau dderbyn gweddïau arbennig.Ni ddylai seintiau dderbyn unrhyw weddïau arbennig.Nid oedd seintiau yn bwysig.
Beth roedd Catholigion yn ei greduDylai’r Eglwys gael ei rheoli gan hierarchaeth llym y Pab, yna’r Cardinaliaid, ac yna’r Archesgobion ayyb.
Ardrefniant Crefyddol ElisabethY Frenhines fyddai’n rheoli fel Oruchaf Lywodraethwr gyda chefnogaeth yr esgobion.
Beth roedd Protestaniaid yn ei greduNi ddylid cael Pab nac esgobion.
Beth roedd Catholigion yn ei greduY seremoni bwysicaf yw’r Offeren.
Ardrefniant Crefyddol ElisabethNi ddylid cael Offeren.
Beth roedd Protestaniaid yn ei gredu Ni ddylid cael Offeren.
Beth roedd Catholigion yn ei greduDylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn Lladin.
Ardrefniant Crefyddol Elisabeth Dylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn Saesneg.
Beth roedd Protestaniaid yn ei gredu Dylai gwasanaethau a’r Llyfr Gweddi Gyffredin fod yn yr ieithoedd brodorol.
Beth roedd Catholigion yn ei greduDylai eglwysi gael eu haddurno’n gywrain a dylai’r gwasanaethau fod yn llawn defodau.
Ardrefniant Crefyddol Elisabeth Dylai eglwysi gael eu haddurno a dylid caniatáu rhai defodau.
Beth roedd Protestaniaid yn ei greduDylai eglwysi a gwasanaethau fod yn blaen.
Beth roedd Catholigion yn ei greduDylai offeiriaid wisgo gwisgoedd lliwgar a bod yn ddi-briod.
Ardrefniant Crefyddol ElisabethDylai offeiriaid wisgo gwisgoedd clerigol a gŵn lliain gwyn a bod yn ddi-briod.
Beth roedd Protestaniaid yn ei greduGwisgoedd plaen ddylid eu gwisgo gan eglwyswyr a dylid caniatáu iddyn nhw. briodi
Beth roedd Catholigion yn ei greduDylai seintiau dderbyn gweddïau arbennig.
Ardrefniant Crefyddol ElisabethNi ddylai seintiau dderbyn unrhyw weddïau arbennig.
Beth roedd Protestaniaid yn ei greduNid oedd seintiau yn bwysig.