Deddfwriaeth y llywodraeth gan gynnwys Deddf Tlodion 1601
Doedd llywodraethau’r Tuduriaid ddim yn gwybod yn iawn beth i’w wneud am y tlawd, oherwydd mewn sawl ffordd, doedden nhw ddim yn deall achosion tlodi.
Credwyd yn gyffredinol bod nifer ohonyn nhw’n ddiog ac yn gwrthod gweithio. Serch hynny, wrth i deyrnasiad Elisabeth fynd yn ei flaen, gwnaed sawl ymgais i wahaniaethu rhwng y rheini na allai weithio a'r rheini oedd yn gwrthod gweithio. Cyflwynwyd amrywiaeth o fesurau i ddelio â’r naill a’r llall.
Felly, pasiwyd nifer o ddeddfau yn ystod y teyrnasiad oedd, i ryw raddau, yn derbyn cyfrifoldeb y llywodraeth i edrych ar ôl y tlawd oedd yn haeddu help. Serch hynny, roedden nhw hefyd yn ceisio darbwyllo’r tlawd oedd ddim yn haeddu help drwy gosbi twyllwrPerson oedd yn gwneud bywoliaeth drwy droseddu. a chrwydrwyr.
Deddf a Blwyddyn | Mesurau a gymerwyd |
Statud y Llafurwyr 1563 | Roedd bechgyn yn dilyn prentisiaeth am saith mlynedd. Y bwriad oedd creu swyddi a chadw cardotwyr posib oddi ar y strydoedd. |
Deddf Crwydraeth 1572 | Defnyddiwyd cosbau llym i rwystro crwydraeth. Ail-gyflwynwyd y gosb eithaf. Byddai’n rhaid i bobl leol dalu treth y tlodion. Roedd y rheini oedd yn goruchwylio’r tlawd yn helpu Ynadon Heddwch i weinyddu cymorth i’r tlawd. |
Deddf Cymorth y Tlodion 1576 | Adeiladwyd Carchardai ym mhob sir. Byddai’r rheini oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu hanfon yno. Byddai’r bobl oedd yn gwrthod talu treth y tlodion yn cael eu cosbi. |
Deddf Cymorth y Tlodion 1598 | Penodwyd pedwar Goruchwyliwr ym mhob plwyf. Roedd rhaid i drigolion dalu treth y tlodion gorfodol i gefnogi’r tlawd. Daethpwyd o hyd i waith i ddynion a menywod abl. |
Deddf Cosbi Dihirod 1598 | Cafodd y gosb eithaf ei wahardd, ond byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu chwipio a’u dychwelyd i’w plwyf eu hunain. Anfonwyd unrhyw un oedd yn ansicr o’i blwyf genedigol i’r Carchardy. |
Deddf a Blwyddyn | Statud y Llafurwyr 1563 |
---|---|
Mesurau a gymerwyd | Roedd bechgyn yn dilyn prentisiaeth am saith mlynedd. Y bwriad oedd creu swyddi a chadw cardotwyr posib oddi ar y strydoedd. |
Deddf a Blwyddyn | Deddf Crwydraeth 1572 |
---|---|
Mesurau a gymerwyd | Defnyddiwyd cosbau llym i rwystro crwydraeth. Ail-gyflwynwyd y gosb eithaf. Byddai’n rhaid i bobl leol dalu treth y tlodion. Roedd y rheini oedd yn goruchwylio’r tlawd yn helpu Ynadon Heddwch i weinyddu cymorth i’r tlawd. |
Deddf a Blwyddyn | Deddf Cymorth y Tlodion 1576 |
---|---|
Mesurau a gymerwyd | Adeiladwyd Carchardai ym mhob sir. Byddai’r rheini oedd yn gwrthod gweithio yn cael eu hanfon yno. Byddai’r bobl oedd yn gwrthod talu treth y tlodion yn cael eu cosbi. |
Deddf a Blwyddyn | Deddf Cymorth y Tlodion 1598 |
---|---|
Mesurau a gymerwyd | Penodwyd pedwar Goruchwyliwr ym mhob plwyf. Roedd rhaid i drigolion dalu treth y tlodion gorfodol i gefnogi’r tlawd. Daethpwyd o hyd i waith i ddynion a menywod abl. |
Deddf a Blwyddyn | Deddf Cosbi Dihirod 1598 |
---|---|
Mesurau a gymerwyd | Cafodd y gosb eithaf ei wahardd, ond byddai unrhyw un oedd yn cael eu dal yn cardota yn cael eu chwipio a’u dychwelyd i’w plwyf eu hunain. Anfonwyd unrhyw un oedd yn ansicr o’i blwyf genedigol i’r Carchardy. |
Deddf Tlodion 1601
Yn 1601, pasiwyd deddf arall ar gyfer rhoi Cymorth i'r Tlawd. Cafodd ei alw’n Ddeddf Tlodion Elisabeth a pharhaodd am dros 200 mlynedd. Yn y bôn, daeth â holl Ddeddfau’r Tlodion blaenorol at ei gilydd yn un ddeddf, gan sefydlu fframwaith gyfreithiol i geisio datrys problemau’r tlawd.
Roedd hefyd yn annog sefydlu elusendyTŷ a ddarparwyd gan elusennau i bobl (yr henoed fel arfer) na allai ofalu amdanynt eu hunain mwyach.. Dyma lefydd gafodd eu hadeiladu a’u cefnogi gan roddion preifat oedd fod i ofalu am y tlawd oedd yn haeddu help.
Cynnydd yn nifer y crwydrwyr
Mae’n ymddangos bod y bwlch rhwng y cyfoethog a’r tlawd wedi ehangu yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Ni wnaeth Elisabeth ddatrys problem crwydrwyr a thlodi, gan fod nifer y crwydrwyr wedi cynyddu mewn gwirionedd yn ystod ei theyrnasiad.
Roedd anfon crwydrwyr i’r Carchardy yn eu cadw oddi ar y strydoedd ond nid oedd hynny’n egluro pam eu bod nhw ar y strydoedd yn y lle cyntaf. Yn yr un modd, roedd eu hanfon o un lle i’r llall ond yn pasio’r broblem o un dref neu bentref i’r llall.
Serch hynny, roedd sylweddoli bod rhai pobl ddim yn gallu cefnogi eu hunain yn gam ymlaen. Aeth deddfau’r tlodion a basiwyd yn ystod ei theyrnasiad ryw ffordd at rwystro pobl rhag crwydro’r ffyrdd. Roedd y cymysgedd hwn o gyfreithiau, elusen breifat ac ymdrechion awdurdodau’r trefi wedi helpu i reoli’r sefyllfa.
Ni wnaeth criwiau o gardotwyr crwydrol wrthryfela yn erbyn cymunedau lleol, a gofalwyd am y tlawd yn eu trefi a’u pentrefi eu hunain cyn belled â phosibl.