91ȱ

Ffyrdd o fyw’r tlawd a’r cyfoethogFfordd o fyw’r bonedd yng Nghymru

Er bod cyfoeth rhai pobl wedi cynyddu yn ystod oes Elisabeth, roedd bywyd i’r mwyafrif yn anodd iawn. Cynyddodd tlodi a diweithdra yn ystod teyrnasiad Elisabeth. Beth oedd y gwahaniaethau rhwng bywydau’r tlawd a’r cyfoethog yn ystod oes Elisabeth?

Part of HanesOes Elisabeth, 1558-1603

Ffordd o fyw’r bonedd yng Nghymru

Mewn oes pan oedd statws a delwedd yn bwysig, roedd y bonedd yn awyddus i ddangos eu huchelgais. Roedden nhw’n adeiladu, ar raddfa lai, tai o gynllun tebyg i dai yr uchelwyr. Roedden nhw’n gallu cynyddu eu cyfoeth drwy rentu’r tir i ffermwyr tenant, ac felly’n sicrhau incwm rheolaidd.

Roedd y tai a adeiladwyd gan y bonedd wedi’u gwneud o frics, carreg neu’n rhannol o bren, gyda nifer o ystafelloedd. Ceisiwyd gwneud y tai mor foethus â phosib, o fewn yr arian oedd ar gael. Roedd y paneli pren, tapestrïau, nifer o ffenestri ac ardal ar wahân i’r gweision, yn creu’r argraff o deulu llwyddiannus.

Roedd y bonedd yn tyfu yng Nghymru gyda masnachwyr, swyddogion y llywodraeth a bancwyr er enghraifft yn awyddus i ddangos eu statws cymdeithasol. Gellir gweld dwy enghraifft o hynny ym Mhlas Mawr yng Nghonwy a Chastell Sain Ffagan ger Caerdydd.

Plas Mawr

Llun o Blas Mawr yng Nghonwy a’i ffasâd yn arddull oes Elisabeth.
Figure caption,
Plas Mawr, Conwy - Hawlfraint y Goron (2018) Cadw, Llywodraeth Cymru

Wedi’i adeiladu gan Robert Wynn, masnachwr a gŵr llys llwyddiannus, roedd Plas Mawr yn adlewyrchu uchelgais a chyfoeth Wynn. Roedd tu fewn i’r tŷ yn cynnwys gwaith plastr cywrain, gydag arfbeisiau â’r llythrennau ‘R.W.’ arnyn nhw. Roedd y celfi yr un mor gywrain, a byddai adloniant a gwledda hael Wynn yn rhoi cyfle iddo ddangos ei statws.

Castell Sain Ffagan

Adeiladwyd y castell hwn ar weddillion castell hynafol aeth â’i ben iddo erbyn 1536. O’r 1560au, dechreuodd Dr John Gibbon, cyfreithiwr llwyddiannus, adeiladu’r tŷ presennol.

Yn 1586, prynwyd y safle gan Nicholas Herbert. Yn debyg i dai mawr Oes Elisabeth, fe’i adeiladwyd yn y steil ‘E’ nodweddiadol, gyda grisiau mawreddog yn arwain at nifer o’r ystafelloedd derbyn ac ystafelloedd gwely.

Fel yn achos Plas Mawr, roedd tapestrïau a lluniau yn addurno’r waliau a gwaith plastr cywrain ar y nenfydau. Roedd y waliau gwyngalch allanol a’r to llechi i gyd yn atgyfnerthu statws cymdeithasol y perchennog.

Ochr blaen Castell Sain Ffagan, adeilad rhestredig Gradd I ac un o dai mawr Oes Elisabeth gorau yng Nghymru.
Image caption,
Blaen adeilad Castell Sain Ffagan - Amgueddfa Cymru
Y gegin yng Nghastell Sain Ffagan.
Image caption,
Y gegin yng Nghastell Sain Ffagan - Amgueddfa Cymru

Yn wahanol i rannau tlotach cymdeithas, roedd y bonedd yn cymryd ffasiwn o ddifri fel adlewyrchiad o’u statws a’u cyfoeth. Roedden nhw hefyd yn cymryd diddordeb mewn defodau, traddodiadau ac addysg. Daeth nifer yn noddwyr i feirdd a cherddorion er enghraifft, ac adeiladu casgliadau o lyfrau a llawysgrifau hefyd.

Felly roedd y bonedd yng Nghymru yn chwarae rôl bwysig ym mywyd gwleidyddol, diwylliannol a chymdeithasol y wlad. Serch hynny, i fwyafrif y boblogaeth roedd bywyd yn anodd, gyda thlodi enbyd yn cael ei achosi gan amrywiaeth o faterion.