91热爆

Ai degawd o droseddu cyfundrefnol a llygredd oedd yr 1920au?

Y gwaharddiad

Ar 16 Ionawr 1920, daeth y Deunawfed Gwelliant i'r Cyfansoddiad i rym, gan wneud gwerthu alcohol yn anghyfreithlon yn UDA.

  • Bwriad Deddf Volstead, 1919, oedd rhoi'r gwelliant ar waith a phennu cosbau am dorri'r ddeddf newydd.
  • Rhoddodd nifer o fudiadau, er enghraifft y Gynghrair Gwrth-Sal诺n ac Undeb Dirwest Cristnogol y Menywod, a rhai grwpiau crefyddol fel y Methodistiaid a'r Bedyddwyr, bwysau ar y llywodraeth i wahardd cynhyrchu a gwerthu alcohol.
  • Roedden nhw'n honni mai gwaith y diafol oedd alcohol a'i fod yn mynd yn erbyn Cristnogaeth. Roedden nhw'n dweud ei fod yn cynyddu troseddu, dyddiau i ffwrdd o'r gwaith a thrais yn y cartref.

Bywyd yn ystod y gwaharddiad

Roedd yn anodd gorfodi Deddf Volstead. Roedd y galw am alcohol yn parhau'n uchel felly roedd gangsters yn ei werthu鈥檔 anghyfreithlon ac yn gwneud arian sylweddol wrth wneud hynny. Ceisiodd y gangiau reoli hyn, a galwedigaethau eraill, fel racedi amddiffyn a mannau cudd i gamblo. Wrth i'r gangsters ddechrau gwerthu alcohol, dechreuodd .

  • Bootleggers oedd yr enw ar bobl oedd yn gwerthu alcohol, eg Al Capone.
  • Byddai rum-runners yn smyglo diodydd i UDA o Ganada a Mexico.
  • Byddai moonshiners yn distyllu eu diodydd eu hunain gartref.
  • Agorodd clybiau yfed anghyfreithlon o'r enw speakeasies ac erbyn 1925 roedd dros 10,000 o'r rhain yn Efrog Newydd yn unig.
  • Roedd mwy o lygredd wrth i'r gangsters swyddogion yr heddlu, barnwyr a gwleidyddion fel eu bod yn anwybyddu eu gweithgarwch anghyfreithlon.
  • Ni allai'r system gyfreithiol ymdopi 芒'r holl droseddu ac felly ceisiodd y llywodraeth ddatrys y broblem drwy benodi Comisiynydd y Gwaharddiad, John F Kramer, yn 1921 a chyn hir sefydlodd garfan o 3,000 o asiantwyr.
  • Yn 1924 sefydlwyd Y Biwro Archwilio (yr FBI yn ddiweddarach) o dan J Edgar Hoover. Roedd dulliau caletach gan ei ddynion ef.

Methiant oedd ceisio gorfodi Deddf y Gwaharddiad. Doedd dim digon o asiantwyr, roedden nhw ar gyflogau isel ac yn hawdd eu llwgrwobrwyo. Roedd hi'n amhosibl perswadio yfwyr i newid arfer oes.