Roedd gangsters ym mhob dinas ac yn ystod y 1920au byddai grwpiau yn ymladd 芒'i gilydd i reoli ardaloedd penodol.
Yn Chicago, Dion O'Bannion oedd yn rheoli'r busnes bootleg yn ne'r ddinas a John Torrio yng ngogledd y ddinas. Roedd Al Capone yn rhan o gang Torrio yn wreiddiol cyn cymryd ei le. Roedd Maer Chicago 'Big' Bill Thompson o dan ddylanwad Torrio.
Yn Efrog Newydd, Dutch Schultz oedd yn rheoli.
Chester LaMare oedd yn rheoli Detroit.
Cyflafan Dydd San Ffolant 1929 oedd uchafbwynt rhyfeloedd y gangsters rhwng Bugs Moran ac Al Capone. Methodd yr awdurdodau ddod o hyd i ddigon o dystiolaeth i gael Al Capone yn euog. Yn 1931 cafodd Capone ei brofi'n euog o beidio talu trethi a'i anfon i'r carchar.