Llywodraeth lwgr
Harding a'i Ohio Gang
Yn 1920 cafodd Warren Harding ei ethol yn Arlywydd UDA. Cafodd enw drwg fel rheolwr gwan am ei fod yn rhoi swyddi pwysig ac awdurdodol i ffrindiau a chyfoedion oedd yn aelodau o'i gabinet. Gr诺p o wleidyddion oedd mewn swyddi pwysig adeg llywodraeth Harding oedd yr Ohio Gang. Bradychodd y rhain ymddiriedaeth y cyhoedd mewn sawl sgandal.
Ar ddechrau 1924, yn fuan ar 么l marwolaeth Harding, dechreuodd pwyllgorau'r Gyngres ymchwilio i adroddiadau o lygredd a llwgrwobrwyo yn ystod gweinyddiaeth Harding. Cafodd sawl aelod o'r Gang eu cyhuddo a'u carcharu am achosion o lygredd.
Cafodd Charles R Forbes ei ddyfarnu'n euog o dwyll, cynllwynio a llwgrwobrwyo yn y Veterans' Bureau.
Yn 1927 cafodd Albert B Fall, a benodwyd gan Harding fel ysgrifennydd cartref, ei ddedfrydu鈥檔 euog, ei ddirwyo $100,000 a'i garcharu am ei ran yn sgandal Cromen y TebotHon oedd y sgandal fwyaf yn ystod cyfnod Harding. Gwleidyddion yn llogi tir y llywodraeth i gwmn茂au olew am arian. a sgandal cronfa olew Elk-Hills.
Cafodd Harry M Daugherty, a fu'n Dwrnai Cyffredinol, ei brofi'n euog o werthu alcohol yn anghyfreithlon a rhoi trwyddedau a phardynau i droseddwyr.